MR. OWEN EVANS, WEST PAWLETT, VERMONT.
Ganwyd Mr. Evans ar yr 2ail ddydd o Chwefror, 1820, yn Bryn Madog, Llanddeiniolen, Gogledd Cymru.Ymfudodd i America yn 1853, y sefydlodd yn Slatington, Pa. Yn 1858 symudodd i Middle Granville, N. Y., ac yn 1872 y symudodd i Pawlet, Vt., lle terfynodd ei yrfa ddaearol. Bu yn briod ddwy waith. Yr ail dro, priododd Miss Jane Williams, o'i ardal enedigol. Ganwyd iddynt chwech o blant, o ba rai mae pump yn fyw i gyd-alaru a'u mam ar ei ol. Chwarelwr ydoedd wrth ei alwedigaeth yn wreiddiol, a chyfrifid ef yn un deallus i ddarganfod chwarel, a medrus i'w gweithio, a bu yn llwyddianus yn yr ystyr hwn. Ers rhai blynyddoedd bellach, yr oedd wedi prynu fferm, ac yn byw arni, efe a'i fab ieuengaf, John, yn gweithio arni, a phob peth yn ffynu yn eu dwylaw.
Ymunodd ag achos yr Arglwydd Iesu yn eglwys y T. C. yn Slatington, Pa., yn y flwyddyn 1853. Dyma adeg yr ail enedigaeth, fel y tybiwn, pan y tywynodd goleuni ysbrydol ar ei feddwl gyntaf, ac yr agorodd ei lygaid mewn byd newydd, ac ysgrifenwyd ei enw ef yn mhlith y rhai byw yn Jerusalem, a bu yn llawenychu am ei fod wedi cael y perl o uchel bris. Yr oedd y darganfyddiad yn rhyfedd iddo, a llawenydd y meddiant yn annhraethadwy. Llawenydd y cariad cyntaf oedd hwn. Wedi croesi y mor, yr oedd gan Israel anialwch i'w deithio, anhawsderau i'w cyfarfod. a gelynion lawer i'w gorchfygu; ac wedi symud i Middle Granville, bu yntau yn rhodio mewn tywyllwch ac heb lewyrch; cyfarfyddodd a rhwystrau a barodd iddo droi oddiar y ffordd, a bu heb ddal cymundeb a'i frodyr crefyddol am saith mlynedd.
Ond yn 1871, ymwelodd Duw ag ef drachefn, a derbyniodd ail ras. Wedi dyfod ar hyd ffordd y mor hyd at Sinai drachefn, mae myned i Ganaan wedi llenwi ei ysbryd gyda brwdfrydedd angerddol, a bu y gweddill o'r daith yn selog ac ymroddgar gydag achos y Gwaredwr, yn gymaint felly a neb a adwaenem. Efe ydoedd y Cymro cyntaf sefydlodd yn West Pawlet i agor chwarel; a chan ei fod yn chwarelwr profiadol, yn weithiwr egniol, ac yn ddyn crefyddol, a'i anturiaeth wedi troi allan yn llwyddiant, enillodd iddo ei hun enw da, parch a dylanwad yn y fro.
Daethpwyd i ddeall hefyd fod y gymydogaeth yn gyfoethog mewn defnyddiau; agorwyd chwarelau eraill yno yn fuan, ac ymsefydlodd llawer o Gymry yn y lle; ond efe oedd eu tad a'u sylfaenydd, ac mae eu llwyddiant yn fasnachol a chrefyddol yn ddyledus i'w ysbryd anturiaethus. Ond ni bu ef foddlon ar agor chwarelau ac ychwanegu ei gyfoeth yn unig, ond fe gadwodd y tân ysbrydol ar allor ei galon heb ddiffodd, a'i ysbryd crefyddol heb lesgau, ac ni adawodd i lwyddiant bydol lindagu ei grefydd. Meddyliodd am wasanaethu a dyrchafn enw y Gwaredwr gydag ymroad brwdfrydig.
Dechreuwyd cadw ysgol Sabbothol a chyfarfod gweddi, a chael pregeth yno mor aml ag oedd yn bosibl. Dyma y pryd y daeth ei allu a'i fedr fel gweithiwr gydag achos crefydd i'r golwg. Rhoddodd ei law ar yr aradr, a gwnaeth yr hyn a allodd a'i holl egni. Byddai y pryd hwnw yn athraw ac yn arolygwr, a chymerai ran yn mhob cyfarfod. Yr oedd yn gerddor gweddol dda, a gwnaeth wasanaeth gwerthfawr fel arweinydd canu pan oedd yr achos yn ei wendid, ac yr oedd yn ddigon call i gilio o'r neilldu pan welai argoel am rywun gwell yn ei le. Agorodd ei dy i dderbyn gweinidogion a ymwelai a'r lle, a bu ef a'i briod yn garedig a chroesawgar i bawb er mwyn yr achos.
Wedi rhai blynyddoedd o lafur ac ymdrech i adeiladu achos Methodistaidd yn y lle, daethpwyd i deimlo fod angen am addoldy, fel cartref i'r achos, a dewiswyd ef a John W. Edwards, o Granville yn awr, yn ymddiredolwyr i gario allan ddymuniadau yr eglwys a'r gynulleidfa; ac wedi prynu lle, dechreuwyd adeiladu, a gorphenwyd. Ynglyn a symudiad o'r fath, y mae llawer o waith cynllunio a threfnu, a myned ar negeseuau, a rhoddodd Mr. Evans ei lafur a'i amser pan nad oedd neb arall yn gyfleus, neu yn ewyllysgar, cystal a'i arian. Mewn undeb a chydweithrediad a'i frodyr, gwnaeth ei ran yn rhagorol.
Llawenydd a mwynhad digymysg iddo ef oedd gweled yr adeilad wedi ei orphen, ac eglwys ieuanc a gobeithiol dan ofal gweinidogaethol yn cyfarfod ynddo.
Yn y flwyddyn 1888, dewiswyd ef yn swyddog, a derbyniwyd ef i undeb a'r Cyfarfod Dosbarth. Amcanodd gyflawni dyledswyddau ei swydd dan lywodraeth cariad a ffyddlondeb i'r Gwaredwr mawr. Mae yn deg i ni ddweyd mai nid talentau uchel, na gwybodaeth eang oedd yn gosod rhagoriaeth arno, ond ei ysbryd gwresog, brwdfrydig, a'i ffyddlondeb i wneyd a allai; a'i fod yn gymeriad pur a diddichell. "Mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd," ac ysgrifenwyd llyfr coffadwriaeth am dano ger bron yr Arglwydd, fel yr ydym yn hyderu ei fod yn un ag oedd yn meddwl am ei enw Ef.
Wedi marwolaeth ei anwyl ferch, Hannah, ymadawodd goleuni a sirioldeb o'i fywyd, a llesgaodd yn ei ysbryd, a bu yn nychu yn y darfodedigaeth, nes iddo orphen ei yrfa ar hwyr y pumed dydd o Chwefror, gan bwyso ar y Gwaredwr mawr, i'r hwn yr oedd efe wedi rhoddi ei hun i'w gadw, mewn llawn ymddiried y byddai yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu.
Ar y nawfed, daeth tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo, a daearwyd ei ran farwol yn mynwent Middle Granville. Gweinyddwyd ar y achlysur gan y Parchn. Roberts, Williams, ac Owens; ac fel yr oedd yn addas, galwyd sylw at weithgarwch ei fywyd fel esiampl a chymelliad i lafur a ffyddlondeb gyda chrefydd. Fel cyfaill pur a didwyll, cymydog caredig, a Christion brwdfrydig, mae ei goffadwriaeth yn fendigedig, a'i ddiwedd fu tangnefedd. Bydded i Dduw Abraham, Isaac a Jacob, yr hwn a fu gydag ef y ffordd y cerddodd, gan ei fendithio a'i lwyddo, aros hefyd yn ei gymdeithas gyda ei weddw yn ei hunigrwydd, ei blant a'i wyrion, gan eu bendithio a thangnefedd.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1891.
MR. OWEN EVANS, WEST PAWLETT, VERMONT.
I, Owen Evans of Pawlet, County of Rutland, State of Vermont, being in feeble health and sensible too of my likeliness to sudden death at the same time being in my own apprehension of sound mind to judge it best to make and accordingly do hereby make this my last will and testament.It is my will that all my just debts and the charges of my funeral be paid and discharged by my executor hereinafter named and appointed out of my estate as soon as conveniently may be after my decease and I leave the charges of my funeral to the direction of my siad executors.
1st. I give to my beloved wife Jane Evans the use of my farm where I now reside during her life to be kept for her use and support. My executor shall have charge of the same. It shall not be sold or in any way disposed of during the life of my wife Jane Evans.
2nd. After the death of my wife Jane Evans, I give to my youngest son John Evans, his heirs and assigns, my farm where I noe reside, all the stock I owned consisting of cows, horses, sheep, oxen, hogs of all ages, young cattle etc. Also the tools on said farm consisting od wagons, carriages, sleighs and all farming tools.
3rd. John Evans my youngest son his heirs or assigns shall pay to Mary Evans Hughes, my youngest daughter, three hundred dollars, ond hundred dollars to be paid to Mary Evans Hughes, one hundred dollars to be paid to Mary Evans Hughes one year from the date of the death of my wife Jane Evans, the balance of two hundred dollars in two years from the death of my wife to be used for her own support and the support of her children if any and for no other purpose whatsoever.
4th. John Evans his heirs or assigns shall pay to Hanna Ellis Roberts, (the daughter of my daughter Hanna Evans Roberts now deceased) at the age of twenty years, one hundred dollars.
5th. John Evans shall pay to Hugh W. Evans, my son, twenty five dollars at the decease of my wife Jane Evans.
6th. I give to Lenie Evans, the son of Hugh W. Evans, my watch, to be given at my decease.
7th. John Evans shall pay to Mary Jane Evans, oldest daughter of Evan Evans, my oldest son, fifty dollars to be paid upon the time of agreement of John Evans and Evan Evans.
8th. John Evans shall pay Ellen Jones wife of Richard H. Jones five dollars at the decease of my wife Jane Evans.
9th. John Evans shall pay Rebecca Moore one dollar at the decease of my wife Jane Evans.
10th. I give and bequeath th Ann Jane Evans my daughter a house and lot with barn consisting 3/4 acre of land to become her property at my decease. House and barn located in Tranville Washington County, New York on Teuten Street in the village of Granville.
11th. I hereby nominate constitute and appoint my son John Evans to be executor of this my last will and testament. In testimony whereof I hereto set my hand and seal, and publish and declare this to be my last will and testament this 29th day November in the year of our Lord one thousand eight hundred and ninety 1890. Signed sealed published and declared by the said Owen Evans as his last will and testament in presence of us, who have hereunder subscribed our names as witnesses thereof, at the request and in the presence of the said testator, and in the presence od each other.