MR. WILLIAM EVANS. RACINE, WISCONSIN.
Medi 3ydd, 1891, yn 78 mlwydd oed, William Evans, Racine, Wisconsin, o anmhariad yr arenau a'r galon.Ganwyd ef yn mhlwyf Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Symudodd pan yn ddyn ieuanc i Ddyffryn Ardudwy, Meirion, a bu yn gwasanaethu fel prif-was yn rhai o'r ffermydd mwyaf yn yr ardal, megys Pentremawr a Llanfair-isaf.
Symudodd gyda ei deulu i America yn 1851, gan ymsefydlu fel amaethwr yn Swydd Racine. Ychydig dros ddwy flynedd yn ól daeth i'r ddinas i fyw - yn benaf er mwyn manteision crefyddol. Yr oedd yn ddyn tirion a rhadlon, a meddai ddynoliaeth gref anghyffredin; ond er mor gryf ydoedd, darfu afiechyd ac amlder dyddiau ei lesgau; tri diwrnod y bu yn sal.
Yr oedd yn aelod ffyddlon a defnyddiol gyda y T. C., a byddai yn fynych yn feddianol ar brofiad helaeth o bethau yr efengyl. Yr oedd ei ddiwedd yn dangnefeddus a dedwydd.
Mae yn galaru ar eo ól weddw, dau fab a dwy ferch, ac amryw wyrion. Cymerodd y gladdedigaeth le o addoldy y T. C., y Parchedigion Robert T. Roberts, M. A., a J. E. Farmer yn gweinyddu.
Daeth tyrfa fawr o'i hen gyfeillion o'r wlad a'r ddlnas i dalu y gymwynas olaf iddo.
T. LL. W.