MRS. JANE GRIFFITHS. WEST PAWLET, VERMONT.
Chwefror 12fed, 1891, yn nhy ei merch, yn West Pawlet, Vermont, Jane, gweddw Robert T. Griffiths, yn 47 mlwydd oed.Dyoddefodd gystudd trwm yn dawel ac amyneddgar am oddeutu pum mis. Bu ar ymweliad a Chymru yr haf diweddaf, ar ôl bod yn absenol oddiyno am dros ddwy flynedd ar bymtheg. Tra yno treuliodd y rhan fwyaf o'i hamser yn Bethesda - ei hen ardal enedigol, ac yn Llanllyfnl, Arvon - o'r hwn le y daethai hi a'i theulu i'r cyffiniau hyn. Pawb feddylient fod ychydig fisoedd yn Nghymru wedi chwanegu llawer at ei hoenusrwydd a'i hiechyd, gan mor dda yr edrychai ar ei dychweliad yn ôl; ond yn annysgwyliadwy cyfyngwyd hi i'w gwely gan glefyd y galon, yn cael ei ddylyn gan ddarfodedigaethi cyflym.
Nid arbedwyd dim treuliau i geisio ymwared iddi o law y gelyn dinystriol. Gwnaeth amrai feddygon eu rhan hwynt iddi, a gweinyddwyd arni yn dyner gan ei pherthynasau a i chymydogion, yn nghyd â Chymryesau caredig a llawn o gydymdeimlad; eithr amlygodd angeu ei hun yn drech na hwynt Yr oedd y wraig ymadawedig yn hoffus gan gylch eang o gyfeillion, ac edmygid hi yn fawr o herwydd ei rhadlonrwydd a'i synwyr cyffredin cryf. Hefyd, yr oedd yn aelod cyson gyda'r T„ C., ac yn ystod ei maith gystudd rhoddes brofion eglur fod ganddi grefydd ddigonol i'w chludo yn ddiangol trwy rydiau yr Iorddonen.
Ddydd Sul, CHwefror 15fed, hebryngwyd ei gweddillion gan dyrfa luosog i West Pawlet Cemetery. Cynaliwyd gwasanaeth yn nghapel y T. C., a gweinyddwyd gan y Parchn. Thomas M. Owens ac Edward Roberts, M. Granville, a chaed sylwadau cyfeiriol a thra effeithiol ganddynt. Mae i'r ymadawedig dri o blant, dau o'r cyfryw yn briod, a llu o berthynasau a chyfeillion yn yr amgylchoedd i alaru o'i hol.
Er maith boen a hir ddihoeni - yr oedd
Yn rhaid ymfoddloni;
Ac er pob croes, ei hoes hi
Ddiweddodd yn ddaioni.