MR. JOHN THOMAS, NEW YORK.
Medi 30ain, Yn Efrog Newydd, o'r Darymrediad, wedi tua deng niwrnod o gystudd poenus, yn 65 mlwydd oed, Mr. John Thomas, yn ddiweddar o Benbrynrhôs, gerllaw Pwllheli, Sir Gaernarfon.Yr oedd y trengedig, a rhan o'i deulu, ar eu taith o'r lle crybwylledig at ei feibion yn swydd Lewis, C. N., ond ychydig wedi tirio, goddiweddwyd ef gan genad angeu yn dywedyd 'hyd yma yr âi, a dim yn mhellach.'
Cafodd ef a'i deulu y drugaredd o gyrhaedd tir cyn ei farw, er ei fod wedi ei gymeryd yn glaf ary môr. Hebryngwyd ei gorff i gladdfa Williamsburgh, ar yr Ynys Hir.