MRS. ANN HUGHES. 512 ST. ANTHONY'S AVENUE, ST. PAUL, MINNESOTA.

Hydraf 20fed, 1891, yn 73 mlwydd oed, Mrs. Ann Hughes, 512 Street, Anthony's Avenue, St. Paul, Minnesota.

Cymerwyd y gweddillion i'w claddu yn Cambria, Wisconsin, y Parchn, Whitcomb, o Beaver Dam, a R. H. Evans yn gweinyddu.

Genedigol ydoedd o Langybl, Sir Gaernarfon. Ymfudodd i America gyda'i rhieni yn 1843. Priododd yn Remsen gyda Richard J. Hughes, a buont yn byw yno am ddeg mlynedd, nes symud i Sir Lewis. Oddiyno, yn 1857, y symudasant i Cambria, Wisconsin.

Pan fu farw ei gŵr, aeth yr ymadawedig i fyw at ei merch ieuengaf, Mrs. O. J. Williams. Gadawodd ar ei hol un mab a phedair merch - H. H. Hughes, o Jackson, Minnesota; Mrs. Edwin Davis, o Cambria; Mrs T. E. Williams, o Plana, S. D.; Mrs. M. Britts, a Mrs. O. J. Williams, o St. Paul, Minnesota.

Y Drych ~ Tachwedd 26ain 1891.