MRS. CATHERINE HUGHES. LIME SPRING, HOWARD COUNTY, IOWA.

Yn ddiweddar, yn dra sydyn o anhwyldeb y cylla, yn Lime Spring, Howard County, Iowa, Mrs. Catherine Hughes, gwraig Mathias Hughes.

Yr oedd yn cwyno er's amser maith; ond bu farw yn lled sydyn.

Claddwyd hi gan dyrfa fawr yn mynwent Lime Spring. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn y tŷ ac wrth y bedd, a thraddodwyd pregeth angladdol iddi y Sul canlynol gan yr ysgrifenydd.

Yr oedd Mrs. Hughes yn ail ferch i Richard Jones, Gwyndy, Llanfairfechan, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, lle cafodd ei geni a'i magu. Nid ydym yn sicr iddi gael ei dwyn i fyny yn eglwys Dduw; ond wedi cyraedd oedran cyfaddas cyflwynodd ei hun yn aberth gwirfoddol, sanctaidd i Dduw, a chafodd nerth i barhau hyd y diwedd. Gadawodd dystiolaeth ar ei hol ei bod wedi enill buddugoliaeth lawn ar ei hol elynion, trwy yr hwn a'i carodd.

Aeth i'r sefyllfa briodasol gyda Mathias Hughes, Ionawr 19, 1866. Cyraeddasant Chicago Awst 19eg, yr un flwyddyn. Buont yn byw yno am wyth mlynedd, yna symudodd hi a'i theulu i'r ardal hon.

Bu iddi 12 o blant, o'r rhai y mae chwech yn fyw i gydalaru a'u tad. Yr oedd wedi dysgu i'w phlant ymhyfrydu yn ffyrdd doethineb. Byddai yn ofalus fod y dyledswyddau teuluaidd yn gyson yn cael eu cyflawni, a llwyddodd i raddau mawr, yr hyn fu yn gysur mawr iddi pan yn eu gadael.

Gobeithio eu bod hwythau ar y ffordd sydd yn arwain i'r bywyd.
RICHARD ISAAC.

Y Drych ~ Hydref 8fed 1891.