MRS. MARY PRITCHARD, LAKE EMILY WISCONSIN, MINNESOTA.

Gorphenag 22nd, Mrs Mary Evans, Lake Emily, Wisconsin. Dechreuodd ei hafiechyd gyda'r anwydwst yn y gauaf diweddaf.

Ynglyn a hwnw ymddadblygodd anhwylderau yn yr afu, yr elwod, a madruddyn y cefn. Yr oedd yn 69 mlwydd oed.

Ganwyd hi ar dyddyn o'r enw Brynbeddau, Llanystumdwy, Sir Gaernarfon. Pan tua 22 oed priododd a Humphrey Humphrey, Pencoed, Llanarmon.

Yn 1845, ymfudasant i Ixonia, Wisconsin. Rhyw bum mlynedd wedi hyny bu farw ei phriod, gan ei gadael gyda thri o blant, y rhai ydynt wedi goroesi, sef G. H. Humphrey, Utice, New York; Mrs. John W. Morris, Lake Emily, Wisconsin a John E. Humphrey, Ixonia, Wisconsin.

Yn 1854, priododd a James Evans, Lake Emily, yr hwn a fu farw yn 1876.

Dioddefodd ei chystudd olaf yn amyneddgar. Yr oedd ei merch a'i dau fab gyda hi pan oedd yn huno yn angau. Claddwyd hi wrth ochr ei gwr cyntaf yn Ixonia.

Hanes Papur Newydd.