MRS. CATHERINE JONES. PARIS, PORTAGE COUNTY, OHIO.
Rhagfyr 24ain, 1891, yn Paris, Portage County, Ohio, Mrs. Catherine Jones, yn 70 mlwydd oed.Tua blwyddyn yn ôl bu yn beryglus o glaf gan y grip, ac ni chafodd lwyr wellhad o'i effeithiau; ail ymaflodd ynddi, a byr a sicr fu ei waith.
Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol iddi yn nghapel yr A. yn Cyclone, lle yr oedd wedi cael el derbyn yn aelod gan y brawd T. A. Humphrey fis yn flaenorol. Pregethwyd ei phregeth angladdol gan y Parch. T. R. Jones, Windham.
Yr oedd Mrs. Jones yn enedigol o Pennal, Sir Feirionydd. Daeth i'r wlad hon pan yn llances ieuanc, wrid-goch, bedair ar hugain oed, yn 1855, gan ymsefydlu yn ardal Paris yma, ac nid hir y bu cyn priodi William Probert, brawd i'r Parch. David Probert, Youngstown, yr hwn a fu farw gan adael un ferch fach yn ngofal y weddw. Gwenodd rhagluniaeth arni; ail briododd ag Edward Jones, y saer, Mineral Ridge, ond yn 1850 bu yntau farw, gan ei gadael gyda mab a merch yn ychwanegoi i ofalu am danynt - y rhai sydd erbyn hyn wedi tyfu i fyny yn rhinweddol a phrydferth, ac ar hyn o bryd yn cartrefu yn agos i Grover, Palmyra, gyda brawd eu mam, sef David Jones, yr hwn a gafodd yr anffawd yn ddiweddar o dori ei goes yn y gwaith glo. Bu Mrs. Jones yn aelod ffyddlon gyda'r Bedyddwyr yn Paris am flynyddau, ond pan ddaeth yr elfen Seisneg i fewn i'r hen eglwys, ymranwyd ac adeiladodd y Saeson gapel braf yn Cyclone.
Nid oedd yn weddill o'r hen Gymry ddigon i gynal yr achos, o ganlyniad cauwyd drws yr hen gapel, ac ymuoodd yr hen bobl Cymreig a'r eglwys Gynulleidfaol yn Cyclone, ac yn eu plith yr oedd gwrthrych ein cofiant. Yn mhen ychydig flynyddau eto bydd i'r un dynged oddiweddyd yr Annibynwyr yn Cyclone.
W. PHILLIPS.