MRS. DORTHA JONES. PLANA, SOUTH DAKOTA.

Mawrth 23ain, 1891, ar ôl byr gyntudd o'r pneumonia, Dortha, anwyl briod Mr. John H. Jones, Plana, South Dakota, ac ar y 25ain daeth tyrfa luosog i hebrwng yr hyn oedd farw i orphwys i Bath Memorial Cemetery.

Gweinyddwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd yn Gymraeg a Saesneg gan yr ysgrifenydd. Brodores oedd yr ymadawedig o blwyf Pistyll, ger Pwllheli, Sir Gaernarfon. Gogledd Cymru.

Ymadawodd gyda ei phriod i'r wlad hon yn 1857, a buont yn cartrefu am amser yn Cambria, Wisconsin, o'r hwn le yr ymadawsant oddeutu deg mlynedd yn ôl i ymsefydlu yn Plana, lle yr oeddynt erbyn hyn yn meddu cartref cysurus iawn. Yr oedd Mrs. Junes yn aelod ffyddlawn gyda y T C. yn y lle: a theimlir colled fawr ar ei hol.

Gadawodd weddw a thair o ferched, un o'r rhai sydd yn byw yn awr yn Cambria, Wisconsin, a dwy gartref gyda'u tad.
OWEN JONES.

Y Drych ~ Ebrill 16eg 1891.