MRS. ELINOR JONES. AURORA, ILLINOIS.

Rhagfyr 31ain, 1891, yn 79 mlwydd oed, Elinor Jones, gwraig William Jones., "y galwr," Aurora, Illinois.

Ganwyd Mrs. Jones yn y Garn Dolbenmaen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, ac yno y priodasant.

Ymfudasant i'r wlad hon yn 1845, a bu iddynt 14 o blant. Cafodd chwech o honynt y fraint o fod wrth erchwyn gwely marw eu hanwyl fam. Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus. Dymunem am nawdd ac amddiffyn Duw dros ein hen gyfaill yn ei unigedd, ar ôl colli hen gydmar ei ieuenctid, wedi bod gyda'u gilydd am 60 o flynyddoedd.

Y Drych Chwefror 4ydd 1892.