MRS. ELIZABETH J. JONES. ARVONIA KANSAS.

Gorphenaf 20fed, 1891, yn 65 mlwydd oed, yn hynod sydyn o'r cholera morbus, Mrs. Elizabeth J. Jones, anwyl briod John Joseph Jones, o sefydliad Arvonia, Kansas.

Daeth y teulu i America o Corwen yn 1872, gyda phump o blant, y rhai a fagasant yn deilwng ac anrhydeddus, a'r rhai sydd oll yn briod ond y mab ieuengaf Johnny, yr hwn sydd mewn masnach yn Lebo, lle y mae ei ddwy chwaer, Mrs. Richard Jones a Mrs. Maggie Roberts, yn trigianu. Mae Joseph, y mab, yn Pennsylvania, a Robert yn New Mexico.

Claddwyd hi yn Arvonia dydd Gwener, y Parchn. D. Todd Jones a J. T. Evans yn gweinyddu.

Y Drych ~ Awst 13eg 1891.