MRS. HANNAH JONES. BRISBIN, CLEARFIELD COUNTY, PENNSYLVANIA.
Mai 26ain, 1891, yn Brisbin, Clearfield County, Pennsylvania., Mrs. Hannah Jones, gwraig William E. Jones (mab Edward Jones, Brynllech, ger Ffestiniog).Merch ydoedd Mrs. Jones i Owen Owens, masnachydd, Gwyndy. Penmachno, Sir Gaernarfon. Ni fu ei bywyd priodasol ond adeg fer, ond yr oedd yn ateb dyben aruchel trwy ogoneddu Duw yn ystod y pedair biynedd y buont yn yr undeb priodasol.
Ymfudasant i'r wlad hon dair blynedd yn ôl, a sefydlasant yn y lle hwn i'r diwedd. Sefydlogrwydd, cyfiawnder a rhinwedd ydoedd arwyddair ei bywyd. Ymunodd â chrefydd yn more ei hoes, a chadwodd y cyfamod yn ffyddlon hyd y diwedd. Bu yn gwanychu am flynyddau.
Dydd cyn ei marwolaeth cafodd ddigon o nerth i ddarllen llythyr a dderbyniasai oddiwrth ei mab o Gymru, a rhoddodd gyfarwyddiadau i'w phriod y modd i'w ateb.
Cafodd bob gofal meddygol a meithrinol, ond ni thyciai dim i gadw angeu draw. Ymgynullodd torf luosog i dalu y gymwynas olaf iddi, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. M. Sadler, Houtzdale, yn y tŷ, yn nghapel yr A., lle yr oedd yn aelod, ac ar lan y bedd.
G. JONES.