MR. JOSEPH JONES, JEFFERSON, COLORADO.
Mab oedd gwrthddrych y llinellau canlynol i Mr. David Jones, builder, Upper Bangor, G. C, a brawd i'r Parch. D. M. Jones, Wales, Wisconsin, a Thomas Jones, San Francisco, California.Yr oedd y gwr ieuanc hwn yn hynod o landeg a golygus, yn meddu ar ddynoliaeth brydferth. Ni bu yn briod. Bu farw yn nghanol ei nerth a'i ddefnyddloldeb o glefyd y galon, Mawrth 16, 1891, a chladdwyd ef yn anrhydeddus yn y lle uçhod y dydd canlynol.
Pan yn fachgen, yr oedd yn un o'r rhai goreu yn Bangor am adrodd mewn cyfarfodydd llenyddol. Yr oedd yn llenor gwych, a phan yn cyfansoddi, yn lled debyg o enill. Cashai yn wastad bob ffug a rhagrith, a charai ymddangos mor naturiol ag y byddai modd. Ac o ganlynlad, yr oedd yn un o'r rhai mwyaí dyddan ac adeiladol yn ei gymdeithas.
Bu am rai blynyddoedd yn Bangor, a gwnaeth athrawon y Coleg Normalaidd lawer ar ei ran, er na bu yn efrydydd yno. Teimlai y Parch. Daniel Rowlands, M. A., a John Price, M. A., ddyddordeb neillduol ynddo.
Symudodd i Liverpool, llu bu yn ysgrifenydd i gyfreithlwr. Daeth gyda'i frawd i Remsen, N. Y., a bu yn aros ryw gymaint yn Utica, ac aeth oddiyno i San Francisco, ac oddiyno i Colorado, yn mhen rhai blynyddoedd. Gan ei fod yn ddyn nodedig o hawddgar, yr oedd pawb a ddeuent i gyffyrddiad ag ef yn wastad yn ei hoffi. Dywed Mr. Wilson, Jefferson, Colo. lle bu farw, am dano, mewn llythyr a ysgrìfenodd at ei frawd, y Parch. D. M. Jones.
Ei fod yn gydnabyddus ag ef er ys pedair blynedd a haner, a'i fod yn ei adnabod yn well na nemawr un yn y Dalaeth, ac y byddai yn bleser ganddo roddi unrhyw fanylion am dano. Diwedda ei lythyr a'r frawddeg ganlynol.
"Your brother Joseph was unusually respected by all who knew him."
Meddal ar gymwysder i weithio ei hun i serch eraill, a dringo i unrhyw gymdeithas, pa mor anrhydeddus bynag y byddai. Ond machludo ddel haul haner dydd; darfu ei amcanion, a phallodd ei holl fwriadau yn dra, sydyn ac anysgwyliadwy iawn, er dwfn dristwch a hiraeth calon ar ei ol i'w gyfeilllon a'i berthynasau.