MRS. MARGARET JONES. PARIS HILL, NEW YORK.

Mehefin 11eg, 1891, yn 71 mlwydd oed, Mrs. Margaret Jones, gweddw y diweddar John R. Jones, Paris Hill, New York.

Daeth i'r wlad hon o ardal Harlech, tua 47 mlynedd yn ôl. Blinid hi er's chwarter canrif gan y crydcymalau, ac yr oedd yn analluog i gerdded cam er's ugain mlynedd.

Ganwyd iddi 16 o blant, 11 o'r rhai oedd gyda hi pan fu farw; ac yr oedd 14 yn bresenol yn ei hangladd y Sabboth canlynol. Mae mab a merch yu byw yn Lowvllie, John a Mrs. Laura Rogers; dwy ferch yn Utica, Mrs. Thomas Griffiths a Mrs. Hugh Williams; Robert a Mrs. Seward Horsford yn Cedarville; David, William a Mrs. Arthur Myers yn Waterville, a Mrs. Adelbert Green, Mrs. William Goodwin, Frank a Misses Sarah a Libbie Jones, ar y tyddyn yn Paris.

Yr oedd Mrs. Jones yn ddynes grefyddol, ac yn addfedu o hyd i'r trigfanau nefol. Mae iddi chwaer, Mrs. Evan Griffltn, yn byw yn Milwaukee.

Y Drych ~ Gorphenaf 2ail 1891.