MRS. MARY JONES. TUG HILL TURIN, LEWIS COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 29ain, 1891, yn nhy ei mab, Ebenezer F. Jones, Lyons Falls, New York, Mary Jones, gynt o Tug Hill Turin, Lewis County, New York, yn 88 mlwydd oed.

Dichon yr adgofia darllenwyr y DRYCH hanes fy ymweliad olaf â Mrs. Jones, yr hon oedd fodryb i mi, chwaer fy nhad, blwyddyn i'r haf diweddaf.

Ganwyd hi mewn tyddyn o'r enw Oran, ger Llandrillo, Sir Feirionydd, ac ymfudodd hi a'i theulu i'r wlad hon yn 1842.

Claddwyd hi Sadwrn, Ionawr 31ain pryd y gweinyddwyd yn y tŷ, yn Lyons Falls, ac yn y capel, yn Turin, gan Gymro a Sais, ac y cludwyd hi i'r fynwent ar yr Hill, lle y rhoddwyd hi i orphwys gyda y rhan luosocaf o'i theulu bydd wedi ei rhagflaenu, gan nad oes ond dau fab - Ebenezer ac Edward - wedi ei goroesi.

Yr oedd dau beth yn hynodi teulu fy nhad ac eiddo fy mam oddiwrth eu gilydd. Yr oedd y blaenaf oll yn amaethwyr, a rhai o honynt yn cynrychioli pob enwad uniawngred, tra yr oedd teulu fy mam oll yn fwnwyr ac yn Galfiniaid. Yr oedd brawd hynaf fy nhad yn ddiacon gyda'r Bedyddwyr, fy nhad yn diacon gyda'r Calfiniaid, un chwaer iddo yn Wesleyddes fawr, a'r uchod yn aelod blaenllaw gyda'r Annibynwyr, ac yr oeddwn yn dweyd vrthi, ar fy ymweliad olaf, fod rhai o'n teulu yn sicr o fyned i'r nefoedd, gan nad pa un o'r enwadau oedd yn iawn.
D. E. ROBERTS.

Y Drych ~ Chwefror 19eg 1891.