MR. EVAN R. MORRIS. PLYMOUTH, PENNSYLVANIA.

Mawrth 31ain, 1891, yn 25 mlwydd oed, Evan R. Morris. Plymouth, Pennsylvania, wedi cystudd trwm am yn agos i flwyddyn o amser.

Ymfudodd i'r wlad hon tua phum' mlynedd yn ôl o gymydogaeth Ffestiniog, Gogledd Cymru, lle mae tri o frodyr a dwy chwaer yn byw yn bresenol.

Mab oedd i Robert a Catherine Morris, Penmachno, Sir Feirionydd. Gogledd Cymru. Mae ei fam yn Plymouth. Pennsylvania, a chyda hi yr oedd ef yn aros.

Claddwyd ei dad pan nad oedd ef ond ieuanc. Yr oedd Evan yn ddyn ieuanc sobr a moesol: ac yn aelod gyda'r Annibynwyr. Bu am wythnos yn ysbyty Wllkesbarre, ond nis gallal y meddygon wneyd dim lles iddo: ac ar ei ddymuniad aeth ei fam a'i phrlod i'w nol adref, lle y cafodd bob ymgeledd.

Claddwyd ef Ebrill 3ydd o gapel yr A., y Parch J. Gwrhyd Lewis yn gwasanaethu yn Gymraeg a Saesneg. Yr oedd yr angladd yn un anrhydeddus; a throdd Cyfrinfa y Coedwigwyr allan yn llu ar yr arogylchiad. Ymdaweled y perthynasau o'r ddau du i'r Werydd.

Y Drych ~ Ebrill 16eg 1891.