MR. EVAN NEWELL, SIR HAND, SOUTH DAKOTA.

Mai 23ain, 1891, yn 69 mlwydd oed, Evan Newell, o Sir Hand, South Dakota.

Daeth i'r wlad hon o Towyn, Meirionydd, Gogledd Cymru, lle y bu yn fasnachwr helaeth a llwyddianus am flynyddoedd, ac o ddylanwad mawr yn y dref a'r wlad, ac yn flaenor yn eglwys y T. C.

Bu yn ymdrechgar a llwyddianus i sefydlu eglwys Seisonaeg yno, ar draul fawr iddo ei hun, a bu yn ffyddlon iawn i gynal yr achos yno yn ei wendid, yn gystal ag i adeiladu capel hardd. Yr oedd hefyd yn garedig a haelionus gyda phob achos da yno; ond rhyw naw mlynedd yn ôl ymfudodd ef a'i deulu lluosog i'r wlad hon, gan aros am ychydig amser yn Chicago, lle yr oedd un mab wedi ei ragflaenu.

Yna symudasant i Hand County, South Dakota, gan ddyfod i feddiant o lawer o dir da, ac yr oedd yn ddylanwadol er da yn y lle. Cafodd gladdedigaeth barchus. Gadawodd deulu lluosog yn eu galar ar ei ôl, a llawer o gyfeillion yno yn cydymdeimlo â hwy yn eu galar ar ôl un o ragoroion y ddaear. Na. alarwch, gyfeillion, fel rhai heb obaith.
D HARRIES.

Y Drych ~ Mehefin 11eg 1891.