MRS. CATHERINE PARRY. RACINE, WISCONSIN.
Mawrth 13eg, 1891, yn Racine, Wisconsin, Catherine, priod Henry Parry, yn 46 mlwydd ood, o'r parlys.Genedigol ydoedd o Llanegryn, Meirion, Gogledd Cymru, a daeth y teulu yma rhyw chwe blynedd yn ôl.
Gadawodd briod a thri o blant, sef un mab a dwy ferch, mewn trallod dwfn ar ei hol.
Claddwyd hi ar y 17eg. Gwasanaethodd y Parch. A. Pipper yn y tŷ yna aed a'i gweddillion i'r eglwys Esgobyddol, o'r hon yr oedd wedi bod yn aelod selog er pan y daethai yma, ac aed drwy y gwasanaeth ciaddu yn ôl defod yr eglwys. Daeth nifer lluosog o'i chydgenedl a'i chydnabyddion yn nghyd er dangos eu parch i'r ymadawedig ac i gydymdeimlo a'i theulu profedigaethus.