MISS. ELLEN PARRY. 1314 WEST CONGRESS STREET, CHICAGO, ILLINOIS.
Mehefin 10fed, 1891, yn 19 mlwydd a 9 mis oed, o'r typhoid pneumonia a hemorrhage, Miss Ellen Parry, yn nhy ei chwaer a'i brawd-yn-nghyfraith, 1314 W. Congress Street, Chicago, Illinois.Merch ydoedd i Evan ac Anne Parry, Waen-Pentir, ger Bangor. Gogledd Cymru.
Cafodd ddygiad i fyny crefyddol, ac wedi ymfudo i'r wlad hon parhaodd yn ffyddlawn i'w Harglwydd mewn gysylltiad ag eglwys Bethania (W.)
Yn ystod ei chystudd trwm cafodd gartref cynes a'r caredigrwydd tyneraf yn nhy Mr. a Mrs. Evans. Gweinyddwyd arni gan Dr. Hayes, Dr. Ford a Dr. Earl.
Cafodd gladdedigaeth parchus iawn yn meddrod y teulu yn Forest Home. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Ellis Roberts. Canwyd deuawd hynod briodol gan Misses Marshall, ac amryw ddarnau gan y gynulleidfa, dan arweiniad Mr. D. Evans. Carpenter Street. Pasiodd yr eglwys benderfyniad yn datgan y cydymdeimlad dyfnaf a'r perthynasau trallodus. Nodded Duw fyddo dros y teulu gartref.