MRS. CATHERINE ROBERTS. FRIESLAND, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Awst 15fed, 1891, Mrs. Catherine Roberts, gweddw y diweddar R. V. Roberts, a merch henaf y diweddar John a Sarah Lloyd, Randolph, Wisconsin.

Ganwyd hi Ebrill, 1833, ger y Bala, Gogledd Cymru.

Ymfudodd i America gyda'i rhieni pan yn 11 mlwydd oed, gan ymsefydlu yn Remsen, New York. Symudodd y teulu i'r Gorllewin yn 1866, a'r flwyddyn ganlynol priododd hi Mr. Roberts, yr hwn a fu farw yn 1881.

Yr oedd Mrs. Roberts wedi bod yn dyoddef oddiwrth y cancer er's deng mlynedd, ac ar adegau yr oedd ei phoenau yn annirnadwy.

Claddwyd hi ar yr l7eg yn mynwent Blaenycae, y Parchn. J. B. Daniel, T. Foulkes, D. R. Jones, R. H. Evans, o Cambria, D. Davies, o Oshkosh, a D. Williams, o Columbus, yn gweinyddu. Yr oedd yn wralg ffyddlon a darbodus, cymydoges garedig a Christion pur. Telmla ei brawd a'i chwiorydd, a chylch eang o gyfeillion, golled fawr ar ei hol.

Y Drych ~ Medi 3ydd 1891.