MR. JARRETT SMITH ROBERTS. OSHKOSH, WINNEBEGO COUNTY, WISCONSIN.

Awst 11eg, 1891, yn Oshkosh, Wisconsin, Jarrett Smith, yn 69 mlwydd oed. Ganwyd et ar dyddyn haner milltlr o Llanllyfnl, Gogledd Cymru. Ymfudodd i America pan yn llanc lled ieuanc.

Treuliodd beth amser yn Cattaraugus, New York, lle y cyfarfu a'i briod, sydd wedi ei gadeal yn alarus ar ei ôl. Tua deugain mlynedd yn ôl symudasant i sefydliad Oshkosh, lle y buont yn amaethu hyd yn ddiweddar.

Ganwyd iddynt chwech o blant, pedwar o'r rhai a gawsant eu maga i'w cyfiawn faint. Blwyddyn i'r haf diweddaf bu farw un ferch, Mrs. Jennie Lloyd, gan adael priod a thri amddifaid i alaru ar ei hol. Rhai blynyddau cynt bu farw yr unig fab, William Roberts, gan adael gwraig a dau o blant ar ei ôl. Wedi blino yn ffarmlo gwerthodd ei dir a phrynodd gartref yn y ddinas, gan ddysgwyl treulio hwyr-ddydd oes mewn taweldeb, efe a'i briod a'i unig ferch sydd heb briodi. Ond daeth y la grippe i'r teulu, a bu efe yn nychu dano ar hyd yr haf.

Ni feddyliodd neb fod perygl neillduol hyd ychydig ddyddiau cyn ei ymddatodiad. Claddwyd ef yn ngwydd tyrfa fawr o hen gyfeillion yn mynwent Soar, pryd y gweinyddwyd gan amryw weinidogion. Profodd y brawd hwn argyhoeddiad ar adeg o ddiwyglad pan yn llanc ieuanc, ac yr oedd ôl hyny ar ei ddull yn gweddio hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd yn hynod ar bawb bron. Y mae rhai yn aros etc a ddychwelwyd at yr Arglwydd wrth ei wrando ef yn gweddio.

Yn ddlweddar soniai am gyngor ei hen flaenor Robert Parry iddo, wrth adael Llanllyfnl am America, i wylio rhag colli ei grefydd. Cyfarfu â llawer iawn o brofediaethau o bob math; ond hyderwn ddarfod iddo farw yn yr Arglwydd, "Mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd; o hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i'w chadw i mL" Rhodded Duw yr un drugaredd i'r teulu oll.
D. DAVIES.

Y Drych ~ Hydref 15fed 1891.