MISS MAGGIE ELLEN ROBERTS. HYDEVILLE, VERMONT.
Rhagfyr 18fed, 1891, yn 22 mlwydd oed, Maggie Ellen Rooerts, merch Griffith G. a Jane Rooerts, Hydevllie, Vermont.Adnabyddir ei thad wrth yr enw Griffith Alma. Ganwyd yr eneth hon yn Lord Street, Blaenau FFestiniog, Gogledd Cymru, Rhagfyr 20fed 1869.
Syrthiodd pan oddeuiu wyth oed, a hyny oedd gwir achos ei hafiechyd. Daeth i'r wlad hon gyda'i rhieni yn 1882, a phriodol iawn yw geiriau ei hoff feddyg R. J. Williams, M. D.:
"El ffydd drwy gystudd gwastad - a lynai'n
Ddiflino'n ei Cheidwad;
Gan gâr a dyeithr, heb eithriad,
Iach a pher yw ei choffad."
Daeth tyrfa lluosog yn nghyd prydnawn dydd Llun, Rhagfyr 2lain, i hebrwng ei rhan marwol i dŷ ei hir gartref, sef i gladdfa brydferth Poultney.
Gwasanaethwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch. J. W. Williams, Fair Haven, Vermont.
R. O. THOMAS.