MRS. MARGARET ROBERTS. WEST PAWLET, VERMONT.

Ebrill 13eg, 1891, yn ei phreswylfod, West Pawlet, Vermont, Margaret, anwyl briod Owen L. Roberts, yn 37 mlwydd oed, ar ôl cystudd maith a blin.

Am eu gofal a'u gweinyddiad iddi yn ei gwendid, haedda ei chymdogion air da.

Merch ydoedd i Griffith ac Ann Davies, Cae-y-groes. Llanllechid. Daethai hi a'i theulu i'r wlad hon ddeg mlynedd yn ôl, a buont yn trigianu yn New Rockland, Canada, am rai blynyddoedd.

Claddwyd ei gweddillion yn y West Pawlet Cemetery, a gweinyddwyd gan y Parch. E. Roberts. Cydymdeimlir yn fawr a'i phriod a'i phlentyn yn eu galar.

Y Drych ~ Ebrill 30ain 1891.