MISS. MARTHA ROBERTS. WEST PAWLET, VERMONT.

Ionawr 28ain, 1891, yn West Pawlet, Vermont, yn 23 mlwydd a 7 mis oed, Martha Roberts, merch Robert ac Ellen Roberts, Caerllwyngrydd, Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru, ar ôl pum niwrnod o gystudd trwm o'r pleuro pneumonia a'r epilepsy fits. Ymfudodd i'r wlad hon tua dau fis yn ol. Bu yn gwasanaethu yn New York am yr ysbaid, yna o fewn pythefnos yn ôl daeth i'r lle hwn i ymweled a'i brawd John G. Roberts, yr hwn oedd ya wael ar y pryd. Yr oedd er yn blentyn yn dangos tuedd grefyddol, ac yn glynu gyda'r Ysgol Sabbothol a phob cyfarfod cyhoeddus, a'i holl ymddygiadau yn weddus. Tra bu yn New York ymunodd ag eglwys Gymreig llth Street.

Dangoswyd cydymdeimiad mawr gan yr ardalwyr yn gyffredinoi, a gweinyddwyd pob cymorth angenrheidiol iddi yn ei gwaeledd. Daearwyd eu gweddillion gan dyrfa luosog dydd Sadwrn, Ionawr 31ain, yn White Cemetery, West Pawlet. pryd y gweinyddwyd yn deimladwy iawn yn y capel M. C gan y Parch. Edward Roberts, Middle Granville.

Gadawodd i alaru ar ei hol dad a mum, chwiorydd a brodyr yn Nghymru, ac un brawd yma, yr hwn a ddiolcha i bawb am eu caredigrwydd mewn adeg o gyfyngder.
MELYNFARDD.

Y Drych ~ Chwefror 12fed 1891.