MRS. MARY HUMPHREYS JONES ROBERTS. WEST PAWLET, VERMONT.

Mai 12fed, 1891, yn West Pawlet, Vermont, Mary, priod Robert D. Roberts, yn 71 mlwydd oed.

Daeth i'r wlad hon o ardal Bethel, Gogledd Cymru, yn 1873, ac ymsefydlodd y pryd hwn yn ardal Middle Granville. Yn mhen pedair blynedd symuaodd y teulu i West Pawlet, Vermon, ac yno y treuliodd hi weddill el hoes.

Yr oedd y chwaer wedi ei breintio a gallu meddwl cryf, ac yr oedd yn hynod o hoff o'i Beibl. Bu yn proffesu crefydd am dros 10 mlynedd, a chadwodd ei phroffes hyd y diwedd. Er nad oedd yn gallu myned i'r capel er's blynyddau, cafodd yr Arglwydd yn gysegr bychan yn ei chartref. Derbynlwyd hi yn gyflawn aelod gan y Parch. John Jones, Carneddi, Bethesda, ac yr oedd ganddi feddwl mawr o hono hyd ei bedd.

Bu ganddl wyth o frodyr a dwy chwaer, pedwar o'r rhai hyn sydd yn aros heddyw, sef Griffith Jones a David Humphrey, West Pawlet; Richard Humphrey, Granville; William Humphrey yn California, a dwy chwaer yn yr Hen VVlad. Bu iddi bump o blant, tri o feibion a dwy ferch; hefyd yr oedd ganddi ugain o wyrion pan fu farw.

Cafodd gystudd hir, ond dyoddefodd yn hollol dawel; ac y mae genym le i gredu ei bod heddyw yn gorphwys yn y nefoedd. Claddwyd yr hyn oedd farwol o honi yn Elm Wood Cemetery, Middle Granville, dydd Sadwrn, Mai 16eg. Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y Parch. Edward Roberts.

Gadawodd ar ei hol briod serchog, plant a brodyr a chwiorydd, y rhai, er mewn galar, sydd o fewn terfynau gobaith ac addewld y Tad nefol o fod yn Farnwr y gweddwon a Thad yr amddifaid. Mewn cyfarfod rheolaidd gwyr ieuainc capel y M. C., pasiwyd yu unfrydol ein bod fel brodyr yn anfon ein cydymdeimlad llwyraf â'r brawd Robert D. Roberts yn ei brofedigaeth o golli ei anwyl briod, a bod y penderfyniad i gael ei gyhoeddi yn y DRYCH.
J. CYNFRIG JONES.

Y Drych ~ Mehefin 25ain 1891.