MR. OWEN WILLIAMS, QUINCY, MASSACHUSETTS.

BU FARW Yn Quincy, Massachusetts, Awst 31ain, 1847, Mr Owen Williams, genedigol o blwyf Llandwrog, swydd Caernarfon, Cymru.

Tiriasai yn y wlad hon ar y 9fed o Awst, yn Montreal Canada. Mae yn debyg i lawer o'i gyd ymdeithwyr feirw cyn cyraedd y lan o'r ship fever. Nid oedd y trancedig yn teimlo fawr o'r clefyd nes y cyraeddodd yma pan y cafodd ef a phawb yn y teulu lle yr arosai, (10 mewn nifer) eu cymeryd gan yr un clefyd, Cymry i gyd. Da oedd bod rhai o honynt yn ei gael mor ysgafn fel y gallent gynorthwyo yr analluog oblegid anogai y meddyg bawb a allai gadw draw am ei fod yn enbyd i eraill ei gael oddiwrthynt. Enw y teulu yw Williams, o ardal Remsen maent yn haeddu clod nid bychan am eu hymdrech yn y fath galedi. Dywedodd y meddyg nas gwelodd ef dŷ yn cael ei gadw yn lanach erioed. Bu Mrs Williams yn abl i weini i'r trancedig fel mam dyner iddo hyd y diwedd.

Y dydd canlynol Medi laf ymgasglodd y Cymry i dalu y gymwynas olaf i'r gweddillion marwol pan y darllenwyd ac y gweddiwyd gan y Parch. Robert Moses ac yna hebryngwyd y marw hyd lan y bedd, lle y darllenwyd drachefn ac yr anerchwyd y gynulleidfa gan yr un gweinidog yn hynod o wresog a phriodol ac yna rhoisom y pridd i'r pridd a'r ddaear i'r ddaear hyd foreu mawr y farn.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1847.