MR. ROBERTS ROBERTS. CASTLETON, VERMONT.
Medi 8fed, 1891, yn Castleton, Vermont, yn 75 mlwydd oed, Robert Roberts. yr hwn a adnabyddid wrth yr enw "Boss Roberts."Genedigol oedd o ardal y Bala. Daeth i Ffestiniog tua 52 mlynedd yn ôl, a bu yn gwasanaethu yn Tyddyn Gwyn am dymor, i Richard Williams, goruchwyllwr chwarel y Diffwys. Wedi hyny aeth i'r chwarel dan yr un meistr. Yn y cyfamser priododd Annie, merch Robert Morris, saer yn yr un chwarel. Ganed iddynt ddau o blant. Bu yr leuengaf f»rw tua blwydd oed; ar ôl hyny gwaethygodd iecbyd ei wraig, a bu hitbau farw ar ôl dwy flynedd, o'r darfodedigaeth, yn 62 oed.
Ymfudodd i'r America gyda'r bachgen hynaf. Yr oedd ef ac ysgrifenjdd y llinellau hyn, yn nghyd a lluaws eraill, yn croesi yn y Forest Queen. Y mae y mab yma wedi ei adael yn bur amddifad, heb neb yn perthyn o'r radd bellaf iddo.
Yr oedd llawer o bethau yn yr hen gyfaill sydd o wir werth. Yr oedd yn hynod am ei eirwiredd a'i onestrwydd, fel cymydog cymwynasgar a thirion. Lle bynag y cyfarfyddech ag ef yr oedd yn hynod siriol. Nid wyf yn meddwl fod iddo elyn ar y ddaear. Bu yn byrddio yn yr un fan am 40 mlynedd, yr hyn sydd yn siarad llawer am ei gymeriad.
Dydd Sadwrn canlynol hebryngwyd yr hyn oedd farwol o hono i fynwent Fair Haven gan dyrfa luosog, er nad oedd yno ond un perthynas, sef ei fab. Yr oedd yr holl dyrfa yn gyfeilllon calon iddo.
Gweiyddwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch. J. W. Williams, Fair Haven.
EI HEN GYFAILL.