MR. WILLIAM ROWLANDS. MCGREGOR, IOWA.

Chwefror 24ain, 1891, yn Racine, Wisconsin yn 59 mlwydd oed, o'r pneumonia, William Rowlands, McGregor, Iowa.

Yr oedd yn fab William Rowlands, Tanygrisiau, Ffestiniog, Gogledd Cymru, diacon enwog yn ei ddydd gyda y T. C a goruchwyliwr yn nghloddfa Samuel Holland (A.S.) Yr oedd hefyd yn frawd i'r diweddar David Rowlands, Pike Grove, ger Racine, ac i Robert Rowlands, Ysw. Y. H., Bancwr, Pwllheli.

Collodd ei rieni pan yn ieuanc. Bu yn gweithio yn y lofa yn Nghymru am ysbaid. Daeth i'r wlad hon tua deugain mlynedd yn ôl, a bu yn gweithio yn chwarelau llechau Pennsylvania am ryw gymaint o amser; ac oddi yno aeth i California lle y bu yn weddol llwyddianus. Dychwelodd yn ôl i Pennsylvania., ond ni arosodd yno yn hir, a daeth i Racine tua'r flwyddyn 1855. Bu ef a Richard Jones, yn nghyd a'r diweddar Evan J. Jones, yn cadw y Racine Exchange Hotel am rai blynyddoedd.

Tua dechreu y rhyfel symudoad ef a Richard Jones i McGregor, Iowa, lle adeilasant hotel a neuadd gyhoeddus, yr hun a elwir y Cambrian Hall. Buont yn dra llwyddianus tra y parhaodd y lle i gynyddu. Rhoddasant yr hotel i fyny a buont yn y commission business am amser.

Priododd Mr. Rowlands gyda Catherine, merch hynaf y diweddar David Pritchard, a bu hi farw ugain mlynedd yn ôl gan adael dwy ferch ar ei hol. Mae yr hynaf, sef Mrs. Edward Price, yn byw yn Racine, ac yn eu ty hwy y bu ef farw mae yr ieuengaf wedi priodi ac yn byw yn Chicago.

Yn nechreu y gauaf hwn daeth ef yma at ei ferch i dreulio y gauaf, fel yr arferal wneyd er's rhai blynyddoedd. Cafodd anwyd rfyw ddeg diwrnod cyn ei farwolaeth, yr hwn a ymddadblgodd yn pneumonia. Bu yn glaf iawn am tuag wythnos, a medthodd pob gofal a medrusrwydd meddygol gadw angeu draw.

Claddwyd ef ar y 26ain, y Parch. Thomas Evans (A.) yn gweinydd - yn Gymraeg a Saesneg yn y tŷ ac wrth y bedd. Daeth nifer fawr o'i hen gyfeillion ac eraill yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo.

Yr oedd wedi bod dros ei oes yn un o'r dynion mwyaf bywiog, anturiaethus a chyfeillgar. Yr oedd yn nodedig o hoff o ganu, a cheisiai ganu penillion Cymraeg yn ei salwch olaf, a gobeithio ei fod wedi cyraedd y wlad lle y mae canu diddiwedd.
T. LL. W.

Y Drych ~ Mawrth 12fed 1891.