MR. W. H. ROWLANDS. BLISSVILLE, FAIR HAVEN, VERMONT.

Ebrill 20fed, 1891, o'r la,-gripe, W. H. Rowlands, Blissville, ger Fair Haven, Vermont. Bu ein cyfaill yn wael ei iechyd am rai blynyddau, fel na allai ddylyn ei alwedigaeth, ond yr oedd yn gallu cerdded o gwmpas hyd o fewn ychydig ddyddiau i'r terfyn.

Yr oedd ei wraig Catherine wedi ei ragflaeuu i'r byd arall er's 15 mlynedd, a rhai o'r plant cyn hyny i ond mae pump o'r plant yn fyw i alaru ar ôl eu tad, sef Richard, William, Humphrey. Mrs. John Miller a Lizzie. Mab i'r ymadawedig yw William H. Rowlands, Poultney, Vermont, yr hwn sydd gyfreithwr galluog a pharchus.

Ganwyd Mr. Rowlands yn Tre'r garth, Llandegai, Gogledd Cymru, Medi, 1818, ac ymfudodd i'r wlad hon yn 1851 o Fangor, Gogledd Cymru, ar fwrdd yr "Ann Grant," ac yr oedd yr ysgrifenydd yn un o'i cyd- deithwyr. Pe buasai ein cyfaill wedi byw oddeutu wythnos yu hwy, buasai wedl anadlu awyr y wlad hon am ddeugain mlynedd, a hyny yn nghylchoedd chwarelau Fair Haven.

Un o brif nodweddion y diweddar W. H Rowlands oedd gofal am ei deulu; gwnaeth hyny yn ffyddlon hyd y gallodd, ac wedi iddo fyned yn analluog cymerodd ei blant y gofal tyneraf o'u tad hyd y diwedd.

Yn sicr, dyma blant wedi talu yn dda am eu magu, ac yn esiamplau i eralll ofalu am eu rhieni, yn neillduol mewn henaint a llesgedd. Mae hon yn ddyledswydd bwysig, a phwy bynag a'i cyflawno yn briodol, bydd yn sicr o gael ei wobrwyo.

Claddwyd gweddillion ein cyfaill yn barchus yn mynwent Fair Haven, pryd y gweinyduwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch. J. W. Williams.
Ei hen gyfaill, WM. M. OWEN.

Y Drych ~ Mai 21ain 1891.