MR. HUGH J. THOMAS. REMSEN, NEW YORK.
Tachwedd 14, 1891, yn Remsen, New York, Hugh J. Thomas, y gof, yn 80 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Llanientyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Daeth i'r wlad hon yn 1827. Gweithiodd ei grefft yn Utica, ac yno y priododd Miss Susannah Jones, yn Ebrill, 1836. Y mae hi, ar ôl bod yn wraig ddarbodus ac yn ymgeledd gymwys iddo, er ei mynych mynych wendid, wedi ei gadael i alaru am golli o honi gydmar ei bywyd.
Dechreuodd ddylyn ei alwedigaeth yn Remsen yn 1835, a pharhaodd hyd 1876, pryd yr ymgymerodd ei fab a chario yn mlaen y fusnes. Ganwyd iddynt wyth o blant, o'r rhai y mae pedwar yn fyw - Hugh H., yr hwn sydd yn dwyn yn mlaen yr alwedigaeth gartref; John H., Painesville, Ohio, yn dylyn yr un alwedigaeth yno; Mrs. George Green, Utica, a Miss Rosa, fel angyles wasanaethgar wedi ei gadael yn ymgeledd ac yn gysur i'w rhieni oedranus, ac yn awr i'w mam yn ei mawr dristwch yn herwydd ei mynych brofedigaethau.
Fel hyn o un i un y mae y teulu dedwydd a chymeradwy yma yn cael eu hysgaru. Adnabyddid ein hoffus hen gyfaill gan gylch eang o gyfeillion yma ac yn y Gorllewin, a syn fydd ganddynt hwy a ninau feddwl na welant ei wyneb siriol mwy ar ein heolydd, ac na chlywir ganddo y cyfarchiad llawen a'i nodweddai gyda'r ieuainc a'r oedranus pan y cyfarfyddid ef. "Ond ni ddychwel efe ataf fi."
Claddwyd ef yn mynwent Capel Ucha', y Parchn. O. F. Parry, J. Seth Jones, Edward Davies ac E. G. Williams yn gwasanaethu.