MRS. MARGARET THOMAS. SOUTH DELTA, WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Awst 30ain, 1891, yn ei chartref clyd yn South Delta, ger West Bangor, Pennsylvania, yn 72 mlwydd oed, Mrs. Margaret Thomas, priod Mr. William Thomas, o nychdod a gwendid mewn canlynlad i'r la grippe.Cafodd gladdedigaeth barchus yn mynwent henafol Slate Ridge, lle mae llawer o'i pherthynasau yn gorwedd erbyn hyn, prydnawn ddydd Mawrth. Medi laf, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. H. F. Williams, Jos. Smith a'r ysgrifenydd.
Yr oedd yn hawdd deall oddiwrth y cynulliad lluosog oedd yn bresenol wrth y tŷ ac yn addoldy Presbyteraidd Slate Ridge, fod y chwaer hon yn un a adnabyddid ac a berchld yn fawr gan lawer yn West Bangor a'r cylchoedd.
Ganwyd Mrs. Thomas mewn ffermdy ger Penygroes, Sir Garnarfon, Gogledd Cymru, o'r enw Llwyndy Bach, ac yr oedd yn ferch i John Parry a'i briod, o'r lle uchod, ond a symudasant ar ôl hyny i Ffestiniog fel teulu, a brawd iddi yw Richard Parry, Bethania, o'r lle diweddaf; ei unig chwaer sydd yn fyw yn bresenol yw Mrs. Richard Hughes, South Delta, ger West Bangor.
Ymfudasai Mrs. Thomas a'i theulu i'r wlad hon oddeutu 35 mlynedd yn ôl o Liverpool, yn yr hon ddinas y buasai fyw amryw flynyddau gyda ei gŵr cyntaf, sef Morris Roberts, Llwyndy Mawr, Penygroes.
Yn mhen ychydig flynyddau wedi dyfod i'r wlad hon bu Mr. Roberts farw gan ei gadael yn weddw gyda thri o blant. Priododd yr ail waith gydag un Thomas Roberts, yr hwn yn fuan a ddaeth i'w ddiwedd drwy ddamwain; yna yn mhen ychydig flynyddoedd priododd gyda William Thomas, a buont byw yn hynod gysurus, a mawr yw colled yr hen gyfaill dyddan a diniwed Thomas ar ei hol.
Gadawodd ar ei hol hefyd yn ei marwolaeth dri o feibion o'r gŵr cyntaf, sef William M. Roberts, Wilkesbarre, a John a Morris Roberts, South Delta. Brawd i'w tad yw yr adnabyddus Francis Roberts, Waukesha, Wisconsin. Yr oedd Mrs. Thomas yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn West Bangor, ac yn dwyn mawr sel dros yr achos, ac yn byw yn hynod ddichlynaidd a chrefyddol.
JOHN CADWALADER.