MRS. ANN WILLIAMS. PLYMOUTH, PENNSYLVANIA.
Medi 3ydd, 1891, yn Plymouth, Pennsylvania, yn 59 mlwydd oed, Mrs. Ann Williams, anwyl briod William Williams, o dwymyn yr ymenydd.Ni fu yn glaf ond deg diwrnod. Cafodd gladdedigaeth barchus prydnawn dydd Sadwrn, pryd y daeth tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion.
Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. D. B. Thomas, Kingston, Pennsylvania, a rhoddwyd ei rhan farwol i orwedd yn mynwent Turkey Hill.
Yr oedd yn enedigol o Gaernarfon, Gogledd Cymru, ac yn ferch i Henry a Grace Jones. Daeth i'r wlad hon saith mlynedd yn ôl o Ffestiniog, Gogledd Cymru, at ei phriod, yr hwn oedd yma flwyddyn o'i blaen, ac sydd wedi ei adael i alaru ar ei hol gyda dau fab ac un ferch, sef John Williams yn New York, a William a Mrs. Owens yn Plymouth.
Yr oedd yn ddynes garedig a chymwynasgar, ac yn wraig rinweddol a darbodus. Yr oedd gyda chrefydd er yn foreu, ac wedi parhau yn ddi-fwlch hyd ei bedd - yn aelod gyda y Bedyddwyr, a gellir ddweyd fod yr eglwys yn Plymouth wedi colli un o'i ffyddloniaid trwy ei farwolaeth. Cydymdeimlir yn ddwys a'i phriod, yr hwn sydd ag un troed megys yn y bedd wedi golli ei ffrind penaf ar y ddaear. Yr Arglwydd a roddo gymorth iddo cofio fod ganddo bob achos i ymgysuro o herwydd ei bod mewn gwlad well.
JAMES ROBERTS.