MR. DAVID V. WILLIAMS. PIKE GROVE, RACINE, WISCONSIN.

Mawrth 14eg, 1891, o'r dyfrglwyf, yn 76 mlwydd oed, David V. Williams Pike Grove, Racine, Wisconsin.

Un o blant Llanuwchllyn, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru ydoedd ef - mab Owen Williams, y gof, a'i wraig Catherine.

Ymfudodd i'r wlad hon yn 1846, ac ymsefydlodd i ddechreu am tua blwyddyn yn Racine, lle hefyd y priododd tua 44 mlynedd yn ôl. Symudodd allan i Pike Grove, lle y treuliodd weddiil ei ddyddiau ar y ddaear, ac y gadawodd ar ei ôl weddw mewn galar dwys, yn nghyd a deg o blant yn amddifaid o dad tyner a charedig, naw o'r rhai sydd wedi ymsefydlu yn y byd, set y tri bachgen a chwech o'r merched.

Mae y ferch ieuangaf gartref gyda'i mam, ac yn gysur a chymorth mawr iddi yn y dydd blin. Yn wir gofelir am y weddw gan y plant oll. Y mae brawd a chwaer i'r ymadawedig yn Plainfield, New York, sef Robert a Margaret (Mrs. Margaret Richards yn awr), ac un brawd yn Ffestiniog, Gogledd Cymru. Teimlir chwithdod neillduol ar ôl y brawd Dafydd Williams, yn ei deulu, y gymydogaeth a'r eglwys Gynulleidfaol Gymreig, yn Pike Grove, yn yr hon y bu yn aelod ffyddlon er pan y derbyniwyd ef yn amser y diwygiad, 82 mlynedd yn ôl, gan y Parch. Humphrey Jones. Yn awr mae yn gysur i'r teulu a'r eglwys ei fod wedi ei gymeryd i'r eglwys orfoleddus yn y nef. Gallwn hefyd ymgysuro yn y ffaith fod yr Arglwjdd yn alluog i lanw y bylchau yn ein heglwysi yn gystal a theuluoedd. Iddo ef y cyflwynwn Mrs. Williams a'i phlant.
THOMAS EVANS.

Y Drych ~ Mehefin 11eg 1891.