MRS. ELIZABETH WILLIAMS. CAERGYBI, DODGEVILLE, WISCONSIN.
Chwefror 6ed, 1891, yn Caergybi, yn agos i Dodgeville, Wisconsin, Mrs. Elizabeth Williams, anwyl briod Mr. Thomas Williams, gynt o Llwyn Derw, Talysarn. Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn agos i 63 mlwydd oed, o'r afiechyd a elwir kidney disease.Dechreuodd ei hafiechyd ychydig gyda blwyddyn yn ôl. Cafodd gystudd maith, yr hwn a ddyoddefodd yn dawel a dirwgnach, gydag ymostyngiad i ewyllys yr Arglwydd. Yr oedd ar adegau fel pe buasai yn cael iro er gwellhad, ond All afael drachefn yr oedd yr atlechyd. Cafodd bob cymorth meddygol oedd yn boslbl i arian gael, a gwnaeth ei phriod a'i phlant yr oll a allent er ei hadferu i'w hiechyd, ond methodd y cwbl, angeu a orchfygodd yn y diwedd - "Amser terfynedig sydd i ddyn ar y ddaear."
Merch ydoedd i William ac Ann Griffiths, Penybol Treffynon, Gogledd Cymru. Tua phedair blynedd a deugain yn ol ymfudodd i'r wlad hon yn nghwmni ei chwaer, Mrs. William Owens, Brynffynon, a Mr. James Morris Racine, Wisconsin yr hwn a gydfagwyd a hi ac oedd fel un o'r teulu.
Tua dwy flynedd a deugaln yn ôl priododd Thomas Williams a bu iddynt 13 0 blant sef wyth o feiblon a pump o ferched. Bu farw un ferch tua 19 mlynedd yn ôl Cafodd ein chwaer y fralnt fagu yr holl deulu nes eu dyfod i oedran - mae yr ieuengaf yn awr tua 19 mlwydd oed. Cafodd hefyd gymdeithas deg o'i phlant yn ei horiau olaf - y mae un mab ac un ferch yn mynyddoedd Colorado. Golygfa dra effeithiol ydoedd pan yr oedd hi yn eu galw, ddeg o honynt (fel Jacob gynt) at erchwyn ei gwely, ac yn eu ffarwelio ac yn eu cyngori i fod yn blant da ac ufudd i'w tad, ac i barotoi i fyned i fyd arall i fyw.
Yn fuan ar ôl hyny collodd ei hadnabyddiaeth o bawb, ac ni bu byw ond ychydig ddyddiau. Cafodd ein hanwyl chwaer y fraint o'i dwyn i fyny o'i mebyd gyda chrefydd, mewn cysylltiad a'r Methodisiaid Calfinaidd, a bu yn aelod cyson o'n heglwys ni yn Salem, ger Dodgeville, am dros 30 mlynedd.
Lluddiwyd hi gan afiechyd i ddyiyn moddion gras cyhoeddus gyda chysonder er's amser maith, yr hyn a'i gofidia yn ddwys. Erfyniai'n fynych weddiau y brodyr drosti.
Claddwyd hi yn mynwent Dodgeville ddydd Llun, Chwefror 9fed. Yr oedd y dorf fawr a'r cerbydau yn lluosog iawn. Gwasanaethwyd yn y tŷ cyn cychwyn gan y Parchn. Sem Phillips a John H. Davies. Barneveld, ac wrth y bedd gan y Parchn. Griffith Jones a Peter Gray Evans yn Saesneg. Cyn ymadael canwyd y penill "Bydd myrdd o ryfeddodau, a.y.
JOHN WILLIAMS.