MRS. ELIZABETH WILLIAMS. SOUTH DELTA, WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.

Rhagfyr 7fed, 1891, Mrs. Elizabeth Williams, anwyl briod Mr. Dd. O. Williams, South Delta, ger West Bangor, Pennsylvania, o'r afiechyd anghyffredin a elwir chronic adenities. Dyoddefodd gystudd trwm am lawer o fisoedd yn hynod dawel a gobeithiol am adferiad, ond ni thyciai y gofal a'r tynerwch teuluaidd mwyaf na medrusrwydd meddygon goreu yr ardal yn erbyn y dolur hwn a weithiasai ei ffordd i'w chyfansoddiad cadarn.

Merch ydoedd i Rowland a Margaret Lewis, Bryncrug, ger Towyn Meirionydd. Ganwyd hi ar y 13eg o Tachwedd, 1817, felly yr oedd yn ymyl â chyraedd yr oedran o 75 mlwydd pan fu farw.

Priododd y waith gyntaf gyda Dd. J. Edwards, Corris, a daethant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1849, gyda thri o blant, yn yr un llong a'r Parchedigion Evan Griffiths, Llanegryn; Iorthyn Gwynedd, Penarth; ac Humphrey Humphreys, Dolgellau, yn nghyd a llawer o Gymry eraill, a daethant rhag eu blaenau i Peach Bottom, canys dyna yr enw oedd ar yr ardaloedd llechfaol hyn y pryd hwnw.

Bu ei phriod, Mr. Dd. J. Edwards, farw yn 1852 mewn canlyniad i archollion trymion a dderbyniasai yn un o'r chwarelau. Yr oeddynt wedi claddu plentyn ychydig cyn hyn, a bu farw plentyn arall iddynt yn mhen pum' mis ar ôl y tad. Mae un mab eto yn fyw, sef Mr. John D. Edwards, Hyde Park.

Priododd y weddw yr ail waith gyda Mr. Dd. O. Williams yn Ebrill, 1854, a bu iddynt un mab yr hwn a fu farw yn flwydd ac wyth mis oed. Mae dwy chwaer i'r ymadawedig yn aros eto yn y wlad hon, sef Margaret yn Virginia, a Mary yn Delta, Pennsylvania ac mae iddi frawd a dwy chwaer yn Nghymru, sef Mr. John Lewis, Portmadog; un ohwaer yn Towyn Meirionydd, ac un yn Aberdyfi.

Yr oedd Mrs. Williams yn un o'r cymydogesau mwyaf adnabyddus, ac ni fu neb yn byw yn ardaloedd West Bangor, pa mor fyr bynag y gallasai y tymor fod, nad ydynt yn cofio yn dda am yr hen fam groesawgar, gymdeithasol, ddoniol a bywiog, Betti Williams.

Fel y gallasid dysgwyl i un mor adnabyddus a pharchus cafodd angladd lluosog ac anrhydeddus. Ar y ffordd i fynwent Slateville, o'i diweddar drigfan yn South Delta, cymerwyd y gweddillion i addoldy Bethesda, West Bangor, a chafwyd gwasanaeth angladdol gan yr ysgrifenydd, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchedigion Williams a Hyde. Bydd yn chwith iawn i'r hen gyfaill D. O. Williams i golli ymgeleddes ei fywyd yn ei henaint, ac hetyd i Miss Lizzie D. Edwards, y gantores fwyn - yr wyres a fabwysiadwyd ganddynt fel eu merch, a'r hon a weinyddodd mor dyner a ffyddlon iddi yn ystod ei chystudd.

Duw fyddo eu rhan a gwrthrych mawr eu hymddiried.
JOHN CADWALADER.

Y Drych Rhagfyr 31ain 1891.