MRS. MARY WILLIAMS. FORESTON, HOWARD COUNTY, IOWA.
Ebrill 16eg, 1891, yn Foreston, Howard County, Iowa, Mrs. Mary Williiams, priod y diweddar Barch. J. D. Williams, yn 72 mlwydd oed.Ganwyd hi yn mhlwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon. Merch ydoedd i'r hynod Hugh Roberts a'i briod, y rhai sydd yn fyw yn serchiadau eu cydnabyddion yn Nhalaeth Wisconsin, er eu bod hwy mewn tawel hunedd yn nghladdfa Proscaeron er's llawer blwyddyn.
Cafodd Mrs. Williams ei rhan o brofedigaethau yr anial.
Priododd yn bur ieuanc ag un Wm. Hughes, a ganwyd iddynt bedwar o blant. Lladdwyd y tad ar yr incline yn 1844, pan yn dyfod adref o chwarel Llanberis, ac yn 1845 ymfudodd ein gwrthrych i'r wlad hon gyda phedwar o blant bach. Yn mhen y ddwy flynedd priododd y diweddar Barch. J. D. Williams, ac aethant i drigianu i Proscaeron yn 1851, lle y ganwyd iddynt bump o blant, dau o'r rhai fuont feirw ac a gladdwyd yn Wisconsin. Plant yr ymadawedig ydynt y Parchn. D. Williams, Bancroft, a R. W, Hughes, Grinnell; Mr. W. W. Williams, Foreston, a Mrs. Griffith Thomas o Lime Springs.
Yn 1866 symudodd y teulu i ardal Foreston, er galar i lawer yn Wisconsin. Gall llaw er un ddweyd gyda'r Parch. J. R. Daniels ei fod yn teimlo yn hapus yn nghymdeithas Mrs. J. D. Williams, a gallwn ninau ddweyd mai enill i ni oedd colled pobl Wisconsin mewn mwy nag un ystyr. Yr oedd achos crefydd yn ei babandod yn y cylchoedd hyn y pryd hwnw, ac yr oedd presenoldeb Mrs. Williams yn y gyfeillach grefyddol yn creu sirioldeb. Yr oedd rhyw eneiniad oddiwrth y santaidd hwnw ar ei chyngorion a'i phrofiadau yn gyson. Ei nodweddion eglur oedd meddwl clir, cof digymar, a hoffder o bethau ysbrydol. Yr oedd dylanwad ei bywyd er daioni.
Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. O. R. Morris a Mr. Davies wrth godi y corff, a chan y Parch. J. R. Daniels yn y capel. Gosodwyd yr hyn oedd farwol i orwedd wrth ymyl ei diweddar briod, ar fryn tra hyfryd ger llaw Lime Springs, Iowa, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Roberts, Sparta, Wisconsin. Y Sabboth dylynol pregethodd y Parch. Mr. Daniels ar yr amgylchiad oddiar y geiriau - "Byw i mi yw Crist," a.y. yn deilwng o'r amgylchiad.
J. H. R.
Y Drych ~ Mehefin 4ydd 1891.
MRS. MARY WILLIAMS. FORESTON, HOWARD COUNTY, IOWA.
Yn Foreston, Iowa, Ebrill 21ain,1891, yn 72 mlwydd oed, bu farw Mary Williams, gweddw y diweddar Barch. J. D. Williams.Ganwyd ein mam yn nhy capel yr Ysgoldy, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon. Merch ydoedd i Hugh Roberts, diweddar o Proscairon, Wisconsin, un pur hynod mewn crefydd a duwioldeb. Yr oedd ef oddicartref yn Sassiwn y Bala pan y ganwyd hi, Mehefin, 1819. Anhawdd oedd iddo fyned - yr oedd yn brysur yn y chwarel - nid oedd llawer er pan oedd wedi dechreu cadw ty, ac yr oedd amgylchiadau y teulu y fath ag y buasai llawer yn petruso myned ddeugain milldir oddicartref, ond myned wnaeth ef; ac ar ei ddychweliad yn ôl i'w dŷ, cyflwynasant iddo ferch fechan, ei gyntaf-anedig, wedi ei geni ar ddydd Sassiwn y Bala.
Pwnc mawr ganddo oedd dwyn ei blant i fyny yn grefyddol, felly gwnaeth ein mam yn gyfarwydd i raddau a'r Beibl pan yn lled ieuanc. Cofiai yn dda y diwrnod yr oedd yn saith oed. Yr oedd ddechreunos, yn ôl ei harfer, wedi darllen i'w thad amryw benodau (yntau yn trwsio esgidiau); ac erbyn dyfod at yr adnod hono yn y Pregethwr, 'Nid oes dyben ar wneuthur llyfrau lawer. a darllen llawer sydd flinder i'r cnawd," troai ei thad a dywedai, " Yr wyt ti yn saith oed heddyw, onid wyt ti ?" " Ydw'." "Wel. cofio di 'rwan Mari fach, dy fod di wedi darllen y Beibl o ddechreu Genesis at yr adnod yna erbyn dy fod ti yn saith oed." Cafodd ganddi ddysgu allan gryn lawer o'r Beibl yn y blynyddoedd hyn hefyd. Dysgodd yr oll o'r Ephesiaid, Hebreaid, Datguddiad, Hosea, Jonah, Pregethwr, Caniad Solomon, agos yr oll o'r Rhufeiniaid, a llawer iawn o'r Salmau.
Clywsom hi yn dweyd mai wrth ddysgu yr Hyfforddwr y cafodd yr aTgraffiadau crefyddol cyntaf ar ei meddwl. Pan oddeutu dwy ar bymtheg oed, priododd un William Hughes, gŵr ieuanc blaenllaw gyda chrefydd, ac un yn rhagori mewn duwioldeb; ceir gair uchel am dano mewn traethawd a ymddangosodd flynyddoedd yn ol yn Sir Gaernarfon ar "Hanes Waen Gynfi."
Efallai y goddefir i ni droi am fynyd oddiwrth wrthddrych y cofiant, gan ein bod yn dyfod yn y fan yma at darddiad enw sydd bellach yn adnabyddus drwy y wlad hon, ac i raddau yn Nghymru. Yn mhen rhai blynyddoedd wedi hyn yr oedd William Hughes yn adeiladu ty, a rhywbeth yn ei feddwl na byddai byw ynddo yn hir. O dan y teimlad hwn, aeth at Mr. Williams, Llanrug, y Person, i gael enw o ryw fath ar y ty i osod allan y syniad mai am ychydlg amser y byddai. Rhoddodd y Person iddo y ddau air Groeg am Dros Dymor, sef Pros Cairon, a dyna yr enw aeth ar y tŷ. Mae y darllenydd yn cofio, efallai, cryn ymryson yn y CYFAILL a'r Drych, flynyddoedd yn ôl, ar darddiad y gair hwn. (Gwel y Cyfaill am Ionawr a Mawrth, 1882, y Drysorfa am Chwefror, a'r Drych am Mawrth 9fed, a.y.)
Addefodd Dr. Roberts ei fod wedi gwneyd camgymerlad mawr, ac nid oedd ein mam na neb o'r cymydogion a ddaethant i'r wlad hon, wedi clywed erioed yr esboniad a roddai Dr. Owen Thomas ar darddiad yr enw. Fel yr uchod y dywedai hi bob amser, ac yr oedd yn cofio yr amgylchiad yn dda Cofiai yn dda fod David Jones Caernarfon, yn y tŷ un boreu Sul, ac wrth weled y gair wedi ei gerfio ar y mantle piece, yn gofyn beth oedd; yna yn tynu ei Destament Groeg o'i logell i edrych ai hwn oedd y gair am "dros amser" yn Luc 8: 13.
Yr oedd y blynyddoedd hyn iddi hi a'i gŵr yn flynyddoedd hyfryd, y cartref yn gysurus; ac yn mhen amser, bedwar o blant i loni y rhieni, a llenwi y tŷ. Yn wir, yr oedd ei hoes hyd yma wedi bod yn oes ddedwydd, cryn lawer o haul yn tywynu ar hen aelwyd ei thad, ac awyrgylch hyfryd bob amser o amgylch Proscairon; ond nid felly yr oedd i barhau, y mae pethau i gyfnewid, mae y gwynt i chwythu o gyfeiriad gwahanol, y mae môr ei bywyd o hyn yn mlaen i fod yn llawer mwy cymysglyd, ac nid yn raddol y daeth y cyfnewidiad. Nid gweled y cwmwl yn codi oddi draw, a chlywed y daran yn swnio yn y pellder, a theimlo felly fod dryghin yn agosau, a pharotoi ar y cyfer a fu gyda hi, ond disgynodd y drwg arni yn fwy tebyg i daranfollt o awyr glir.
Ryw brydnawn, dyma yr elor yn dyfod o'r chwarel a'i gŵr arni, wedi ei friwio yn farwol! Bu fyw o ddydd Mercher hyd boreu Sadwrn. Pe gwyddem y manylion, ni chaniatai gofod i ni eu hysgrfenu - digon yw dweyd fod yn debyg i delmlad ein mam gael y fath shock y pryd hwnw a'i gwnaeth yn wan i gyfarfod â phryder neu brofedigaeth o hyny hyd ddiwedd ei hoes.
Yr oedd llawer o son yn y blynyddoedd hyny am America a llawer yn symud yma i fyw. Yr oedd ei brawd Thomas a'i chwaer Gwen wedi croesi y môr eisoes, a'i thad yn meddwl dilyn y flwyddyn ganlynol - 1845; a chan ei bod hithau bellach yn weddw a diamddiffyn, cychwynodd gydag ef; ond erbyn cyrhaedd Lerpwl, yr oedd ei brawd ieuengaf mor wael fel yr arosodd ei thad a'i mam ar ôl nes ei gladdu, a bu raid iddi hi wynebu y môr gyda'r pìant bach heb berthynas ond ei chwaer Hannah, ua ar bymtheg oed (gwraig y diweddar Barch. J. E. Williams, Oshkosh), ond yr oedd llawer o Gymry ar fwrdd y llong. Nid wyf yn cofio am neb o honynt sydd yn aros hyd heddyw yn adnabyddus i ddarllenwyr y Cyfaill, ond Parch. John R. Daniel.
Yr oedd yn eu plith ddynion blaenllaw, y blaenoriaid adnabyddus, Hugh Edwards, Bodwrog; John Roberts Pen-y-gwrhyd; Jabes Lloyd, John Daniel, a.y.; ac yn fath o gadben arnynt oll, y diweddar Barch. Robert Willlams, La Crosse. Sonial ein mam yn fynych am hen deulu y llong. Llawer gwaith y clywsom hi yu dweyd wrth redeg dros y marwolaethau yn y Cyfaill neu y Drych, "Wel, dyma un eto o hen deulu y llong wedi mynd." Ond nid cymaint o gysur gafodd hi. Parhaodd y fordaith chwech wythnos, ac yr oedd y ddau blentyn lleiaf yn sal ar hyd y daith, ac yr oedd yr eneth fach ddwyflwydd oed mor wael erbyn cyrhaedd Brooklyn, fel na oddefid iddi lanio - bu raid troi i'r Hospital; ond nid yn hir, oblegid yn mhen diwrnod neu ddau, yr oedd yr hyn oedd farwol o honi yn barod i'r bedd, a daeth y swyddog ac aeth ag ef mewn box bychan dan ei fraich i'r fynwent, a'r fam yn canlyn a'r plentyn arall ar ei braich.
Os ydym yn cofio, dyma yr adeg y clywsom hi yn son am dani iddi gael cymaint o bleser yn adrodd wrthi ei hunan y rhan Lamed o'r Salm Fawr - "Yn dragywydd, O Arglwydd, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd. Oni bae fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yma am danaf yn fy nghystudd."
Daeth o'r diwedd at ei brawd i Wisconsin, a chyrhaeddodd ei rhieni yn mhen ychydig ar ei hol. Yno gyda hwy y bu yn cartrefu am ryw gymaint, a rhyw fodd glynodd yr enw Proscairon wrth tŷ hwnw, ac aeth yn fuan wedi hyny yn enw ar yr ardal. Efallai mai y geiriau isod o'r Drysorfa yw yr esboniad goreu ar hyn: "Pan oedd Hugh Roberts yn Lerpwl ar ei daith o'r wlad hon i'r America, dywedodd y Parch. O. Thomas wrtho, 'Wel cofiwch yno am enw tŷ eich mab-yn-nghyfraith - Proskairon - dros amser.' Ac mae yn ymddangos i'r hen ŵr da roddi yr enw ar ei drigfa wedi myned dros For y Werydd, ac mai dyna bellach yw enw y gymydogaeth hono."
Yn mhen rhyw ddwy flynedd wedi hyn, priododd â John D. Williams, a bu y ddau yn teithio yr un llwybrau am y deugain mlynedd canlynol; a chan i ychydig o'i hanes ef ymddangos yn y Cyfaill flynyddoedd yn ôl, ni wnawn bellach ond sylwi mewn modd cyffredinol ar rai pethau oeddynt yn nodweddu ei chymeriad hi:
1. Gellir dweyd iddi gael cartref cysurus ar hyd ei hoes - felly yn yr Hen Wlad, ac felly yma, Yr oedd ei theulu yn lled fawr, a digon o waith ganddi, ond digon hefyd i'w chynorthwyo, a digon o bob peth at ei llaw.
2. Trefnodd rhagluniaeth iddi gael manteision crefyddol da ar hyd ei hoes. Fel y sylwyd, ganwyd hi yn nhŷ y capel. Glynodd yn lled agos i'r capel tra yn Nghymru, a disgynodd y capel yn lled agos i'w thŷ yn Wisconsin. Byddai hi yn bresenol yn mhob cyfarfod. Yn ei thŷ braidd bob amser y lletyai y pregethwyr. Gan fod ei gŵr yn bregethwr, ei thad yn brif flaenor, a'i brawd (y Parch. Thomas H. Roberts) yn weinidog yr eglwys, teimlai yn lled gartrefol yn eu plith. Mwynhai eu cymdeithas yn fawr, a byddai wrth ei bodd yn gweini arnynt. Ond odid y byddai neb yn mwynhau y bregeth yn fwy na hi. Yr oedd mor gydnabyddus yn yr Ysgrythyr, ac wedi darllen cymaint o lenyddiaeth grefyddol, ond i'r pregethwr gadw yn rhywle o fewn cylch cyffredin, waetb pa un ai hanesiol, ymarferol, ai athrawiaethol fyddai y bregeth, ni byddai boen yn y byd arni hi ei ganlyn; ac os byddai neb yn mwynhau, byddai hi yn cael mwynhad. Rhoddwn ar hyn ran o lythyr y Parch. J. E. Daniel atom.
"Pan oeddwn i yn cycbwyn pregethu, nid oedd un cwrs athrofaol i'w gael i'r pregethwr ieuanc. Bron yr unig fantais a gawn i wella fy hunan oedd nosweithiau Sadyrnau a'r Sullau ar ôl yr oedfa, tŷ y blaenor meddylgar a darllengar, ac ambell chwaer graffus a duwiol; ymgom gyfeillgar a'r pregethwr ieuanc yr edrychwn i fyny ato, ac ambell lenor coeth, heb ofalu a fyddai y cyfryw yn proffesu ai peidio. Y pethau hyn a'r cyffelyb fu yn lle athrofa i mi. Yr oedd tŷ eich tad a'ch mam fel ty capel i Proscairon - yno y disgynai pawb; yno y carwn inau letya pan y deuwn i Proscairon, a bu yr ymgom ddifyr ar yr aelwyd yn adeiladaeth i mi ddwsinau o weithiau. Nid oes dim sydd yn fwy o fendith i ysbryd dyn nag ymddyddan yr aelwyd, os bydd o ansawdd dda ac iachus a byddai felly yn nhy eich tad a'ch mam. Tynid fy sylw bob amser at graffder eich mam yn gwrando. Ni welais neb yn meddu llygaid mwy awgrymiadol; ni ddiangai un sylw braidd heb i'w meddwl gael gafael arno; gwyddai y pregethwr ar symudiad ei llygad fod cymundeb rhwng ei feddwl a'i meddwl hi, 'Canwyil y corph yw y llygad,' ac yr oedd Mrs. Williams yn meddu llygad awgrymiadol dros ben - mynegiad perffaith o'i meddwl craff a bywiog.
Teimlwn fo'd colli Mrs. Williams o gynulleldfa Proscairon wedi bod yn anfantais i mi gael y peth a alwn yn hwyl wrth bregethu yn y lle. Nid mewn craffder i ddilyn y pregethwr yn unig y rhagorai Mrs. Wiiliams ond mewn gwrandaw, a byddai y deigryn yn bradychu teimlad dwfn ac angerddol, nes peri i mi deimlo lawer tro ei fod yn enyn bywyd o'm mewn. Wrth gofio am hen amser da tymor ieuenctyd yn Proscairon, "Fy enaid a flysiodd yr addfed ffrwyth cyntaf."
3. Gwnaeth hithau ei goreu i groesawu a chynal y moddion lle bynag y byddai. Yr oedd canu yn naturiol iddi - cynorthwyai gyda hyn. Clywsom amdani yn canu y "Cyfamod Disigl " ei hunan mewn cyfarfod Nadolig perthynol i'r gwahanol ardaloedd, a gynelid yn Proscairon yn yr amser gynt. Cofiwn hi mewn cyfarfod o'r fath yn darllen hefyd bryddest fuddugol Dewi Dinorwig, "Cyflwyniad Samuel gan ei fam at Wasanaeth y Deml." Soniai y Parch. J. R. D. yn ei lythyr fod ganddi chwaeth farddonol pur dda - hoffai y prydferth, y tyner a'r toddedig. Gwnaeth lawer o benillion yn ei hoes. Ychydig soniai hi am danynt. Ni argraffwyd yr un. Unwaith, yr ydym yn credu, y bu yn cystadlu, a daeth allan yn fuddugol y tro hwnw, sef yn un o gyfarfodydd lled enwog a gynelid yn Foreston ugain mlynedd yn ôl. Er fod y beirniad yn henafgwr, yn cael ei ystyrled yn ŵr cymedrol, ac nid cellwair yr oedd y tro hwn, arferai eiriau yn ymylu ar ormodedd - cydmarai y bardd buddugol i Shakespeare. Ni feddyliodd fod y fath ddyn yn anadlu awyr y Gorllewin. Wedi cyrhaedd adref, dywedodd y plant wrthi fel yr oedd Mr.--------yn canmol el pheniillon. Yr oll a ddywedodd oedd, "Yr oedd o yn teimlo yn ddigon pen isel, mae yn debyg, pan glywodd o pwy oedd wedi eu gwneyd nhw."
Ond gyda moddion gras a'r Ysgrythyr y byddai hi yn ei helfen. Fel ei thad, gwnai i'w phlant ymgydnabyddu a'r Beibl yn ieuainc. Pan deuai y plentyn i ddarllen yn lled dda, rhoddal ar ei feddwl mai gorchestwaith pawb a allai ddarllen oedd darllen y Beibl o ddechreu Genesis, a byddai yn ei ddyddori, drwy ei holi am yr hanes, a'i gael yntau i ofyn cwestiynau iddi hithau. Cofia yr ysgrifenydd am un cwestiwn roddodd iddi; yr oedd hwyrach rhwng chwech a saith oed, fel hyn, Os gallodd mam Moses ei guddio nes oedd yn dri mis oed, paham nad allai ei guddio yn hwy? Dysgwylid atebiad heb oedi. Dywedodd hithau fod plant bach yn cysgu llawer pan yn fychain iawn; ond wedi dyfod yn rhyw dri mis oed, eu bod yn llawer mwy effro, ac yn gwneyd mwy o swn, a bod yn debyg fod ar fam Moses, wedi iddo ddyfod yn dri mis oed, ofn iddo fod yn effro, a gwneyd swn pan ddeuai y dynion o gwmpas i chwilio am y plant bach i'w lladd!
Bu yn ffyddlon gyda yr ysgol Sabbothol hefyd, yn athrawes (arferai ddweyd) er pan yn bedair ar ddeg oed. Bu to ar ol to o ferched ieuainc Proscairon yn ei dosbarth hi. Athrawes oedd hefyd wedi dyfod i sefydliad Lime Spring. Tua phymtheng mlynedd yn ôl, gwnaeth beth na wneir yn aml gan athrawon, aeth a dosbarth o wragedd i ddechreu Genesis, a dechreuodd ddarllen y Beibl gyda hwynt o'i gŵr. Cofiwn y byddai yn son am wahanol rai o'r dosbarth hwn - un hen wraig, Mrs.-------, yn gyfarwydd iawn a'r hanes; ond aml un o'r gwragedd fel arall, yr hanes yn hollol newydd iddynt; ambell un yn synu fod y fath beth i'w gael yn y Beibl.
Un tro, pan oedd yr ysgrifenydd adref, yr oeddynt wedi cyrhaedd at lyfr Job; dro arall, agos a gorphen y Diarhebion. Wrth holi un o'r gwragedd "ar ôl y cynhebrwng," deallais iddynt gyrhaedd i Jeremiah. Yr adeg hono, penderfynwyd o flaen rhyw Gyfarfod Ysgol, i bob dosbarth fyned i ddarllen i un o'r epistolau; ac er mwyn bod yn loyal, aeth ei dosbarth hithau, gan feddwl myned yn ôl i'r Hen Destament wedi y Cyfarfod Ysgol; ond yn y cyfamser cymerodd rhywbeth le fel nad aed byth yn ôl i Jeremiah, ac yno gadawyd y wers. [I barhau.]