MR. DAVID W. DAVIES. FLOYD, NEW YORK.

Hydref 20fed, 1892, yn Floyd, New York, o'r darfodedigaeth, yn 30 mlwydd a 5 mis oed, David W. Davies, mab Mrs. Elizabeth Davies, yr hwn ddaeth i'r wlad hon tua phum mlynedd yn ôl o Tycroes, Llanbedr, Sir Gaernarfon.

Heblaw mam alarus gadawodd ar ôl ddau frawd, y Parch. John F. Davies, Plainfield, a Michael Davies, gartref gyda'i fam; a dwy chwaer, un yn Ffiint a'r llall yn Bont y Borth.

Claddwyd ef yn Holland Patent, ddydd Llun, y Parch. Thomas Jones, Floyd, yn gweinyddu. Yr oedd yr ymadawedig yn nai i John Jones, Holland Patent, brawd ei fam.

Y Drych Tachwedd 3ydd 1892.