MISS. MARIA ANN DAVIES. SHENANDOAH, PENNSYLVANIA.

Hydref 27ain, 1892, o'r croup, Maria Ann Davies, yn 7 mlwydd a 2 fis oed - merch David a Mary Davies Shenandoah, Pennsylvania. Ganwyd hi yn Bethesda, Gogledd Cymru, o'r hwn le yr ymfudodd ei rhieni i'r wlad hon tua phum mlynedd yn ôl.

Yr oedd yn eneth dlôs, anwyl a gobeithiol iawn, ac fel blodeuyn hardd yn ymagor yn yr ysgol Sabbothol: ond yn nghanol gobeithion y rhieni a'r ysgol Sul, cymerwyd y planigyn tyner i baradwys Duw i dyfu, blodeuo a ffrwytho yn oes oesoedd. Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y Parch. D. Davies, Sabboth, Hydref 30ain.

Daearwyd hi yn mynwent yr Odd Fellows ger y dref. Bydded i'r Arglwydd fod yn gymorth hawdd ei gael i'r rhieni a'r perthynasau yn eu galar.
D. DAVIES.

Y Drych Tachwedd 10fed 1892.