MRS. MARTHA DAVIES. STAMFORD, CONNECTICUT.
Medi 24ain, 1892. yn Stamford, Connecticut, Mrs. Martha Davies, anwyl briod E. R. Davies.Ganwyd yr ymadawedig yn Mai, 1899, yn Bettwsycoed, Gogledd Cymru. Merch ydoedd i John Jones, blaenor parchus gyda y T. C.
Daeth hi a'i theulu i'r wlad hon tua naw mlynedd yn ôl, a buont yn trigianu yn Vermont a New York, ond y rhan fwyaf yn Stamford. Rhoddodd ein chwaer anwyl arwyddion amlwg yn ei bywyd defnyddiol fod egwyddorion moes a chrefydd wedi cael eu planu yn fore iawn ar aelwydydd ei serchiadau. Nid anghofiaf ar gychwyniad ein hachos bach Cymreig yma y dyddordeb gymerodd yn ei sefydliad, a'r modd ymroddol y glynodd wrth achos y Gwaredwr, sydd wedi ei derbyn i'w fynwes anwyl erbyn heddyw. Ni fyddal ei lle byth yn wag yn y cyfarfod gweddi a'r ysgol Sabbothol. Yr oedd yn ymhyfrydu fel athrawes i godi dyddordeb yn ei dysgyblion bach a thyner.
Yr oedd yr ystafell yn orfoleddus pan yr oedd yn ffarwello a'i phriod anwyl a'i phlentyn holl a'i chwiorydd tyner, gan eu hanog i frysio ar ei hol. Yn gymdeithasol yr oedd yn feddianol ar yr holl rinweddau sydd yn adduruo y rhyw fenywaidd, ac yr oedd hyny i'w weled yn amlwg iawn ddiwrnod ei chladdedigaeth. Daeth lluaws o'r bobl barchusaf, cyfoethog a thlawd, a chyfeillion a chyfeillesau lawer o New York, i dalu y deyrnged olaf o barch i'w gweddillion.
Gweinyddwyd gan y Parchn. Owen Evans o Gymru, a Mr. Downey (M. E.) Nodded y Nef gaffo Mr. Davies a'i blentyn, a chysured Duw y ddwy chwaer dyner fu yn gweini arni gyda'r fath ddyfalwch, yn nghyd a'i rhieni a'i holl berthynasau yn yr Hen Wlad.
J. ROBERTS.