MRS. GWEN ELLIS. PORTLAND, BANGOR, WISCONSIN.
Mai 9fed, 1892, yn ardal Portland, tua deuddeg milltir o Bangor, Wisconsin, Mrs. Gwen Ellis, yn 77 mlwydd, 4 mis a 9 diwrnod oed. Cartrefai er's blynyddau gyda ei merch a'i mab-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. W. Albert Jones, a chartref cysurus a gafodd. Y ffurf gyntaf ar ei hafiechyd oedd y grip, yr hwn a wnaeth ymosodiad trwm arni tua dwy flynedd yn ôl, a dylynwyd hyny gan fath o nychdod neu ddarfodedigaeth. Dyoddefodd y cwbl heb rwgnach, na dangos dim anmharodrwydd i ymostwng i ewyllys ei Thad nefol. Yr oedd yn "llawen mewn gobaith, yn dyoddefgar mewn cystudd, yn dyfal barhau mewn gweddi."Dechreuodd ei gyrfa ddaearol yn Llanuwchllyn, Gogledd Cymru. Ei rhieni oeddynt John ac Ann Evans. Fel pobl Llanuwchllyn yn gyffredin, yr oedd wedi cael corff cryf ac iachus, a daliodd felly am oes faith, yr hyn fu yn fendlth fawr iddi mewn llawer o amgylchiadau.
Daeth i'r wlad hon yn 1855, ac arosodd yn Utica. New York, am tua deng mlynedd. Yn 1857 priododd Owen Ellis, a ganwyd iddynt un ferch, sef Mrs. W. Albert Jones. Yr oedd Mr. Ellis wedi bod yn briod o'r blaen, ac y mae yn aros o'i blant ef o'r wraig gyntaf Mrs E. R. Roberts. Bangor, Wisconsin, Mrs. Owen Evans, Utica, New York, a Mrs. Orville Noble, Chicago.
Yn 1865 sywudodd y teulu i Bangor, Wisconsin, lle bu y priod a'r tad farw tua 28 mlynedd yn ôl. Yr oedd ein chwaer yn aelod gyda'r T. C., er yn ieuanc. Yr oedd ganddi feddwl a galluoedd naturiol cryfion, a deallal ei Beibl ac egwyddorion y grefydd Gristionogol yn llawer gwell na'r cyffredln. Nid teimlad anwadal oedd ei chrefydd hi; ond egwyddor sefydlog, yn codi a ymorphwysiad ffyddiog yr enaid a'r berson ac aberth yr Arglwydd Iesu Grist.
Ni byddal un amser yn proffesu pethau mawr, eto yr oedd ei chysondeb gyda moddion gras, ei hoffder o'r Belbl, ei chyfraniadau tuag at gynal crefydd a'i gofal am achos y Gwaredwr, yn profi ei bod wedi ei gwreiddio a'i seilio yn nghariad yr efengyl.
Claddwyd hi yn mynwent Bangor, Mai 11eg, gan dyrfa barchus, y Parch. H. Meurlg Pugh yn gwasanaethu.