MRS. ANN MORRIS EVANS HUGHES. WATERVILLE, NEW YORK.
Gorphenaf 14eg, 1892, yn Waterville, New York, Mrs. Evans, gweddw y diweddar Evan D. Evans, yr hwn a gladdwyd ychydig dros flwyddyn yn ôl.Bu Mrs. Evans yn dyoddef oddiwrth ddiffyg anadl ar brydiau er's rhai blynyddau; ond ychydig ddyddiau cyn ei diwedd cafodd anwyd, yr hwn a droes yn pneumonia, ac felly a derfynodd yn angeuol iddi mewn byr amser.
Yr oedd yn wraig rinweddol, synwyrol a didderbyn a pherchid hi yn fawr gan bawb o'i chydnabod. Bu am flynyddau yn flaenllaw a gweithgar gyda phob math o fudd i'r aohos Cymreig yma, ac ystyrid hi a rhai gwragedd eraill sydd wedi ei rhagflaenu i'r bedd yn rhai o brif golofnau yr achos yma. Y mae ychydig o'i chyfeillesau eto yn aros ar y maes; a da genym weled ei dwy ferch hithau yn dylyn camrau eu mam, ac yn cydweithio yn selog gyda'u chwiorydd ieuainc.
Ganwyd Mrs. Evans yn Llanegryn, Meirionydd, er's yn agos i 66 mlynedd yn ôl. Y mae eu plant golygus a rhinweddol mewn dwfn alar ar ôl rhieni gofalus a thyner, doeth a synwyrol - David a William yn briod, Lewls ac Edward gyda'i chwaer Ella ar y ffarm, eu hen gartref clyd; Mary, priod Thomas Roberts, yn byw yn eu tŷ eu hunain yn y pentref hwn, ac Ebenezer yn clerk yn y bost swyddfa.
Daeth amryw geraint i'r teulu yma o bell i'r angladd ddydd Llun, sef y Parch. Hugh Williams o Floyd, Hugh Evans ac Evan Evans o Rome, Mary Roberts o Lee Center, y ffyddlon a'r garedig Mrs. Prichard, matron y City Hospital Utica, a chynrychiolwyr o braidd holl deuluoedd Cymreig y cylchoedd, yn gwneyd y cynebrwng yn un o'r rhai mwyaf lluosog a welwyd yma ers talwm.
Gwasanaethodd y Parch. B Gwernydd Newton yn Saesneg yn y tŷ ac wrth y bedd; hefyd cafwyd ychydig eiriau gan y Parch. H. R. Williams yn Gymraeg yn ei ddull toddedig ei hun.
Bellach huned y Gymraes garedig hon mewn tawelwch yn nghladdfa Waterville hyd fore y deffroad mawr y dydd hwnw.
ABEDNEGO.