MR. JOHN J. EVANS. TRENTON, NEW YORK.
Hydref 21ain, 1892, yn 24 mlwydd oed, o'r darfodedigaeth, John J. Evans, Trenton, New York. Brodor ydoedd o Sir Garnarfon, Gogledd Cymru.Symudodd i'r wlad hon gyda'i rieni pan yn ieuanc. Bu yn aros am beth amser yn Utica. New York, a threuliodd flynyddau lawer yn Prospect cyn symud i bentref Trenton, lle y treuliodd ei ddyddiau olaf.
Yr oedd Mr. Evans yn fawr ei barch gan bawb, fel dyn tawel a dirodres. Ymunodd a chrefydd 35 o flynyddau yn ôl, a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd gyda'r Annibynwyr Cymreig.
Gadawodd briod a dau o blant i alaru ar ei ôl - Jennie C. a Robert W. Evans, y ddau o Trenton. Dydd Sabboth dylynol rhoddwyd yr hyn oedd farwol o hono i orphwys yn mynwent Prospect.
Gwasanaethwyd ar yr achlysur yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch Mr. Williams, Rome. Bendith Duw fyddo ar y teulu yn eu dwfn drallod.
TRENTONIAN.