MR. WILLIAM W. EVANS. NEW ULM, MINNESOTA.

Rhagfyr 14eg, 1892, yn yr ysbyty yn ninas New Ulm, Minnesota, William W. Evans, neu fel yr adnabyddid ef oreu yma, William Evans, Colorado.

Yr oedd ei farwolaetb yn ganlyniad damwain alaethus. Rhyw bedwar diwrnod yn flaenorol rhedodd y ceffylau ymaith gydag ef wrth ddychwelyd o'r ddinas uchod lle y cludai goed. Derbyniodd niweidiau mewnol yn yr amgylchiad a brofuant yn angeuol iddo.

Yn Awst diweddaf cyfarfu a damwain gyffelyb gyda y medelydd. Y pryd hwnw torodd rai esgyrn, a niweidiodd ei ben yn ddrwg; ond wele, pan ar fin llwyr adferiad, dyma anffawd arall yn troi yn angeuol iddo.

Ganwyd Mr. Evans yn Penyffridd, Penmaohno, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ei rieni oeddynt Rowland ac Ellen Evans. Collodd ei dad pan yn dra ieuanc.

Daeth i'r America yn llanc gwiddgooh yn 1861, a bu yn gwasanaethu am ddau dro yn oynwys tua saith mlynedd yn yr un man ger Cambria, Wisconsin, sef gyda Edward L. Williams.

Rhoddai Mr. Williama mewn llythyr diweddar at gyfaill yn yr ardal hon, gymeriad uchel iddo fel bachgen ieuanc diwyd, a gwasanaethwr ffyddlawn. Dywed am dano y teimlai ef a'i briod ato fel pe yn fab yn hytrach na gwas.

Bu yn Nhalaeth Colorado am tua pbedair blynedd ar ddeg, ac yno y priododd y waith gyntaf gyda Laura, merch i Thomaa Hughes o ger Cambria, Wisconsin. Bu farw ei briod yno gan ei adael yn weddw gyda phump o blant bychain. Daeth i Cambria, Minnesota, yn 1883, lle y oartrefodd ar ei dyddyn ei hun hyd ei farwolaeth.

Yn 1885, ymbriododd eilwaith ag Eliza Davies, merch John Davies o'r un ardal, o'r hon y ganwyd iddo dri o blant. Yn awr y mae wyth o blant wedi eu gadael mewn colled am dad tirion, a phriod am ŵr ffyddlawn a gofalus. Gadawodd hefyd ddau frawd a thair chwaer, sef Rowland R. Evans, Cambria, Minnesota; Evan Evans, London House, Llandudno, Gogledd Cymru; Mrs. Ellen Roberts a Mrs Alice Roberts, Penmachno, Gogledd Cymru, a Mrs. Eliza Roberts, Plymouth, Pennsylvania.

Perchid William Evans yn fawr gan ei holl gydnabod. Ni ellid cael priod a thad mwy tyner a darbodus, gonestach dyn, a cbaredicach cymydog nag ef. Nid oedd gan neb air bach i'w ddweyd am dano. Yr oedd yn ddyn sobr, a hynod o weithgar; ac yn un y gellid ymddiried bob amser yn ei air. Er nad oedd yn ysgolhaig neillduol, eto y fath oedd ymddiried ei gymydogion ynddo fel yr etholasant ef fwy nag unwaith i awyddau pwysig yn y Plwyf.

Ond yn ddisymwth dyma ni wedi ei golli o bob cylch, ac y mae ei ymadawiad sydyn yn rhybudd o'r newydd i fod yn barod, "canys yn yr awr ni thybiom y daw Mab y dyn."

Nid oes genym with derfynu hyn o nodyn coffadwriaethol am dano, ond dymuno amddiffyniad y nefoedd dros ei weddw drallodus, a'i anwyl blant, a'i berthynasau oll. Rhoddwyd ei gorff i orphwys yn mynwent Cambria y trydydd dydd o'i farwolaeth gan dyrfa luosog, pryd y gwasanaethwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan yr ysgrifenydd.
THOMAS E. HUGHES.

Y Drych Ionawr 26ain 1893.