MR. JOHN GRIFFITH. ERIE, PENNSYLVANIA.

Chwefror 29ain, 1892, yn 37 mlwydd oed. John Griffith, Erie Pennsylvania, sef mab William Griffith, y gof, Abermaw. Ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon wyth mlynedd yn ôl, ac y mae yma weddw a chwech o blant yn awr mewn galar, yr hynaf o'r plant ddim dros 14 mlwydd oed, a'r ieuengaf yn flwydd ei afiechyd oedd y darfodedigaeth. Bu yn orweddog am bum mis; ond cafodd bob cymorth a gofal gan ei wraig ffyddlawn a'i frawd Griffith.

Claddwyd ef yn barchus. Yr oedd yn aelod o gymdeithas y Knights of the Golden Eagle, a throdd yr aelodau allan yn gryno i'r angladd.

Y Drych ~ Mawrth 17eg 1892.