MRS. MARGARET GRIFFITHS. PLAINFIELD, OTSEGO COUNTY, NEW YORK.
Ionawr 16eg, 1892, yn Plainfield, Otsego County, New York, Margaret Griffiths, gweddw y diweddar John Griffiths, gynt o Lanegryn, Gogledd Cymru, yn 67 mlwydd oed. Daeth i'r wlad hon tua thair blynedd yn ôl gyda'i mab a'i merch yn-nghyfraith a'r plant.Bu yn cadw tŷ i'w brawd o hyny hyd y gwanwyn diweddaf, pryd yr aeth ef i fyw at ei fab Robert, ar fferm ger Clayville.
Bu Mrs. Griffiths yn gweithio mewn amryw leoedd o hyny hyd ei marwolaeth. Yr oedd yn ddynes iach, gref o'i hoed, ac ni bu ond ychydig yn sal. Credwn iddi gael pob chware teg, er ei bod mewn gwlad estronol.
Yr oedd wedi claddu ei gŵr er's amryw flynyddoedd cyn dyfod i'r wlad hon. Merch ydoedd i Owen a Margaret Davies, y rhai a arferent fyw yn Llanegryn, ac yn un o chwech o blant, un o'r rhai, Owen Jones, fu farw yn y wlad hon.
Dydd Mawrth, y 19eg, daeth ei chyfeillion yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddi, pryd y cynaliwyd gwasanaeth yn nhŷ ei mab. Gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch. J. F. Davies (A.);
Gorphwys Margret yma'n dawel,
Er dy fod mewn estron wlad,
Ac yn mhell oddiwrth dy geraint,
A dy anwyl fam a'th dad;
Yn dy wylio yn fan yma
Mae Creawdwr nef a llawr,
Fe ofala am dy ddeffro,
Pan y can yr udgorn mawr.