MRS. ANNIE EVANS HUGHES. EAGLE GROVE, IOWA.
Gorphenaf 8fed, 1892, yn Eagle Grove, Iowa, yn 59 mlwydd oed, Mrs. Annie Evans Hughes, priod H. M. Hughes, Ysw., Sept. of the Northern Division of C. and N. W. Railway.Ganed hi yn Bangor, Gogledd Cymru. Yn 1853, ymbriododd â Mr. Hughes. Yn 1857, daethant i America, gan ymsefydlu yn Racine, Wisconsin.
Y mae Mr. Haghes yn fab i'r diweddar Barch. Morris Hughes, Felinheli, yr hwn oedd un o'r gweinidogion parchusaf a galluocaf perthynol i'r T. C. yn Sir Gaernarfon.
Bu Mr. Hughes am lawer o flynyddoedd yn ngwasanaeth y Western Union Railway, ac yn aros yn Beloit, Wisconsin, a Davis, Illinois. Yn ddiweddarach aeth i gysylltiad a'r C. and N. W. Railway, ac wedi cael ei ddyrchafu o ris i ris nes cyraedd i'r safle bwysig y mae ynddi yn awr. Bu ganddynt bump o blant, ond nid oes ond un yn fyw, sef Mr. Elias E Hughes, yr hwn hefyd sydd yn Supt. Middle Div. of the C. and N. Railway, ac yn ddyn ieuanc o rodiad a buchedd hynod grefyddol - effaith diameuol bywyd a chyngorion ei fam rinweddol. Yr oedd Mrs. Hughes yn grefyddol o'i hieuenctid, ac yn dwyn mawr sel, ac yn ymdrechgar gyda phob rhan o weithgarwch Cristionogol. Yr oedd yn wraig o dymer addfwyn a charuaidd, ac wedi enill lluaws mawr o gyfeillion yn mhob man y bu yn trigianu. Caed amlygiad o hyny ar ddydd ei chladdedigaeth, canys daeth canoedd o bobl iddo o Omaha, Nebraska, Des Moines, Boone, Eagle Grove, Ames, a Tama.
Claddwyd hi o dŷ ei mab yn Belle Plaine, ar y lOfed, y Parch. R. Stapleton yn gweinyddu. Anfonodd y gwahanol gymdeithasau o weithwyr a swyddogion y gledr-ffordd florals o'r fath harddaf, i ddangos eu parch mawr i'r ymadawedig.
Cydymdeimlir yn fawr â Mr. Hughes gan luaws o'i gyfeillion yn mhob rhan o'r Gorllewin, ac hefyd a'i fab; canys collasant briod a mam o'r fwyaf hawddgar.