MRS. ELEANOR JONES. 707 NORTH MADISON STREET, ROME, NEW YORK.

Awst 27ain, 1892, yn sydyn o geuliad gwaed yn y galon, Mrs. Eleanor Jones, priod Edward T. Jones, 707 North Madison Street, Rome, New York.

Dyoddefodd ddygn boenau o'r pryd y dechreuodd yr anhwyldeb hyd ei marwolaeth. Dydd Llun, Awst 8fed, taflwyd Mrs. Jones, ei gŵr. a Hugh V. Evans allan o gerbyd, ac anafwyd Mrs. Jones mor ddrwg fel yr ofnid am ei hadferiad; ond yr oedd bron wedi enill ei nerth arferol, pan yn ddisymwth y cwynodd wrth ei gŵr fod ganddi boen yn ei hochr chwith. Anfonwyd yn ddioed am feddyg, ond cyn iddo gyraedd yr oedd ei hysbryd wedi myned at yr hwn a'i rhoes. Ganwyd Mrs. Jones yn Allt Lwyd, Trawsfynydd, Sir Feirionydd, Mai 27ain. 1833.

Hi oedd yr hynaf o un ar ddeg o blant David a Gwen Isaac. Ymfudodd y teulu i Utica pan nad oedd hi ond blwydd oed, ac yn Sir Oneida a Madison y treuliodd hi ei holl oes.

Chwefror 18fed, 1874, priododd E. T. Jones, a buont yn byw ar fferm yn Westmoreland am rai blynyddau, ond saith mlynedd yn ôl, o herwydd gwaeledd Mr. Jones, symudasant i Rome.

Yr oedd Mrs. Jones bob amser yn ddynes grefyddol a pharchus; a bu yn aelod gyda'r Presbyteriald am 18 mlynedd. Mae ei gŵr bron yn ddiymadferth gan y parlys er's blynyddau; a bu hi yn ofalus iawn o hono. Mae ei marwolaeth felly yn golled anadferadwy iddo ef; ac yn destyn galar i'w lluosog gyfeillion a pherthynasau. Heblaw ei gŵr, gadawodd ddau frawd, Henry a David Isaac yn Sir Madison; a chwech o chwiorydd, Mrs. T. D. Roberts, Floyd; Mrs. Thomas Winston, New York; Mrs. D. K. Davies, Unadilla Forks; Mrs. Joseph Jones, Mrs. Thomas Morris, a Mrs. W. W. George, Utica; hefyd dau lystab - Proff. E N. Jones o Plattsburg, a John H. Jones o Richfield Springs.

Y Drych Medi 15fed 1892.