MRS. ELEANOR J. JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 7fed, 1892, yn 86 mlwydd oed, Eleanor J. Jones. Ganwyd hi yn Sir Gaernarfon, Rhagfyr 14eg, 1806.

Ei henw morwynig oedd Hughes. a daeth i'r wlad hon gyda'i rhieni pan yn un ar ddeg oed. Sefydlodd y teulu yn Trenton, ond symudodd hi i Utica oddeutu 70 mlynedd yn ôl.

Yn 1830 ymbriododd â Lewis Jones, yr hwn fu yn dra adnabyddus i'r Cymry am flynyddau lawer fel masnachwr ac fel un blaenllaw gyda materion Cymreig. Bu Mr. Jones farw yn 1874.

Yr oedd Mrs. Jones yn wraig garedig a chymwynasgar, o dymer fywiog, yn meddu ar lawer o wybodaeth gyffredinol, gyda dawn ymadrodd swynol. Bu yn aelod o eglwys Westminster am ddeugain mlynedd, ar ôl gadael y Cymry o herwydd achosion nad yw yn werth eu hadgoffa.

Gadawodd bump o blant i alaru ar ei hol : Morgan A. Jones o Brooklyn, Lewis A. Jones, Thomas M. Jones, Mrs. George H. Bellinger a Miss Kittie E. Jones o Utica.

Claddwyd hi ddydd Llun,Hydref 10fed, wrth ochr ei phriod yn Forest Hill Cemetery, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Tbomas J. Brown, D.D.

Y Drych Hydref 20fed 1892.