MISS. ELINOR JONES. BLISSVILLE, VERMONT.
Mehefin 23ain, 1892, yn Blissville, Vermont, Elinor Jones, merch Hugh ac Ann Jones, yn 24 mlwydd oed.Bu yn sal am dair blynedd o dan y darfodedigaeth. Y flwyddyn gyntaf gallasid meddwl ar rai adegau ei bod wedi cael llwyr wellhad, ac ar adegau eraill byddai yn cael ei thaflu mor isel nes y meddylid fod awr ei hymddatodiad wedi dod. Yn ystod y misoedd diweddaf yr oedd cyfnewidiad amlwg yn cymeryd lle.
Yr oedd yn perthyn iddi ragoriaethau gwerth i'w hefelychu — ysbryd addfwyn a llonydd, diabsen, ac yr oedd yn hynod ofalus o'i thad a'i mam, gan y rhai, yn gystal a chan ei chwaer a'i thri brawd, y derbyniodd bob gofal a thiriondeb.
Ar y 27aln daeth tyrfa i dalu y gymwynas olaf iddi hi ac i gydymdeimlo a'r teulu trallodus. Cyflawnwyd y moddion crefyddol yn y tŷ ac ar lan y bedd yn effeithiol iawn gan y Parch. J. W. Williams, Fair Haven.
Daeth y teulu i'r wlad hon 21 mlynedd yn ôl o Lanfrothen. Y maent wedi cael llawer o brofedigaethau yn ystod y pum mlynedd diweddar - wedi colli tair merch, ac mae iechyd Mrs. Jones yn hynod o wanaidd.
Y mae yr ardal yn cydymdeimlo yn fawr a'r teulu trallodus.
PIERCE ROBERTS.