MRS. ELLEN JONES. GRANVILLE, NEW YORK.

Mawrth 2ail, 1892, yn Granville, New York, Ellen Jones, priod y diweddar Edward Jones, Gelli, yn 54 mlwydd oed. Cydgyfarfyddiad o wahanol anhwylderau peryglus, y rhai daflasant y galon i annhrefn a dyryswch, ydoedd achos ei marwolaeth.

Ganwyd hi yn Llwyn-y-gell, Blaenau Ffestiniog. Ei rhieni oeddynt Cadwaladr a Gwen Lewis. Yn Awst, 1883, ymfudodd i America o Ffestiniog, at ei phriod a'i mab hynaf, y rhai a diriasent rai misoedd yn gynt, ac oeddynt wedi ymsefydlu yn Granville. Dygodd Mrs. Jones y gweddill o'r teulu gyda hi, sef Margaret a Cadwaladr. Wedi ychydig fisoedd, symudasant oddi yma i Farnamsville, ger Fair Haven, Vermont, lle y gorphenodd ei phriod ei yrfa ddaearol, bedair blynedd yn ôl.

Ddechreu Tachwedd diweddaf, symudodd y plant gyda'u mam i Granville, gan eu bod yn gweled ei hiechyd yn gwaethygu, er mwyn yn benaf cael gwell cyfleusderau a manteision meddygol, a symbyliad i'w meddwl hithau, ond er pob ymdrech, caredigrwydd a gofal ei hanwyl blant, yn nghyda medrusrwydd meddygon goreu y cylch, i lawr yn gyflym yr oedd Mrs. Jones yn myned. Gadawodd obaith cryf ar ôl ei bod yn gadael byd y cystuddiau am wynfyd y nef. Canodd lawer o emynau, ond gweddiodd fwy, a gorfoleddai wrth fyfyrio ar drefn y cadw. Gadawodd dystiolaeth i'w phlant ac eraill ei bod yn barod i'r cyfnewidiad.

Hyderwn y bydd i'w chyngorion ddwyn ffrwyth yn muchedd ei hanwyliaid, y rhai sydd yn ymlynu wrth eu gilydd, ac yn penderfynu cadw y cartref hyd y gallant heb ei dori i fyny.

Claddwyd hi ar y 12fed, yn mynwent Poultney wrth ochr gweddillion ei phriod, y Parch. W. Williams (T. C.), yn gweinyddu.
J. A. FRASER.

Y Drych ~ Ebrill 7fed 1892.